S4C am ddarlledu rasio ceffylau yn fyw o Ffos Las am y tro cyntaf erioed

10/10/2014

Categori: Chwaraeon, Iaith, Newyddion

Bydd rhaglen chwaraeon brynhawn Sul newydd S4C, Clwb, yn darlledu rasys ceffylau yn fyw o drac rasio Ffos Las am y tro cyntaf erioed ddydd Sul, 12 Hydref.

 

Bydd y darllediad byw o rasys 2:15 a 2:45 yn ecsgliwsif i S4C ar deledu daearol yng ngwledydd y Deyrnas Unedig.

 

Mae'n un o uchafbwyntiau rhaglen fydd hefyd yn cynnwys rygbi Pro12 yn fyw, uchafbwyntiau Top 14 Ffrainc, y ras seiclo Paris-Tours Classic o Ffrainc, pêl-droed o Uwch Gynghrair Cymru ac uchafbwyntiau Wrecsam v Grimsby o’r Vanarama Conference.

 

Bydd Clwb yn darlledu am 2.15pm The Trustmark Design And Print Handicap Hurdle Race 2m 4f ac am 2,45pm The Susan Andrews Memorial Handicap Steeple Chase 2m.

 

Y cyflwynydd teledu a radio Shân Cothi, sy’n cyflwyno a’r joci a'r cyflwynydd Brychan Llŷr yn sylwebu.

 

"Y gobaith yw mai’r rasys yma fydd y cyntaf o nifer o ddarllediadau byw o un o draciau rasio amlycaf Cymru. Mae'n dangos ein hymrwymiad i ddarlledu’r amrywiaeth ehangaf o chwaraeon o Gymru a'r byd ar Clwb, a gall dilynwyr chwaraeon fod yn hyderus y byddant yn clywed am yr holl ddatblygiadau mawr o’r byd chwaraeon ar Clwb,” meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon a Rhaglenni Ffeithiol S4C.

 

Mae'r rhaglen bum awr Clwb yn dechrau am 12.30pm ar ddydd Sul.

 

Yng Nghymru, mae S4C ar gael ar Sky 104, Freeview 4, Virgin TV 166 a Freesat 104. Yng ngweddill y DU ar Sky 134, Freesat 120 a Virgin TV 166.

 

Gall gwylwyr ledled y DU hefyd wylio S4C ar-lein ac ar alw ar s4c.co.uk/clic, yn fyw ar tvcatchup.com a TVPlayer.com ac ar YouView.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net