Sut i gyrraedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Categori: Addysg, Adolygiadau Llyfrau, Ar-lein, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Cystadlaethau, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Gwleidyddiaeth, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Bydd meysydd parcio dros dro yr Eisteddfod yn cael eu lleoli i'r Dwyrain a'r Gorllewin o Lanelli gyda system bws gwennol yn weithredol.
Bydd y meysydd parcio yn cael eu nodi'n glir gydag arwyddion melyn ar bob prif gyffordd yn yr ardal. Mae parcio a'r bws wennol i'r Maes yn rhad ac am ddim.
Bydd y gwasanaeth bws gwennol yn gweithredu ar bob adeg y mae'r Eisteddfod yn agored i’r cyhoedd ac yn eich cludo chi o'r meysydd parcio i Ganolfan Ymwelwyr yr Eisteddfod. Os gwelwch yn dda, cofiwch ganiatáu digon o amser ar gyfer y rhan hon o'ch taith a allai fod hyd at hanner awr.
Bydd y bysiau yn dychwelyd yn rheolaidd i'r meysydd parcio drwy gydol y dydd o'r Ganolfan Ymwelwyr.
Bydd lleoedd parcio i bobl anabl (bathodyn glas) ar gael ym Mharc y Scarlets gyda bysiau priodol yn rhedeg yn rheolaidd i’r maes.
Cludiant Cyhoeddus. Bydd bws gwennol yn rhedeg yn rheolaidd o orsafoedd trenau a bysiau Llanelli i'r Maes . Unwaith eto, bydd yn dadlwytho a chodi yn y Ganolfan Ymwelwyr. Bydd hwn hefyd am ddim.
Manylion Cyrraedd:
Os ydych yn teithio o Ogledd neu Orllewin Cymru drwy Gaerfyrddin, yna dilynwch yr A484 i'r de o Gaerfyrddin tuag at Llanelli. Ar y gylchfan ar ôl Porth Tywyn, dilynwch yr arwyddion melyn i barcio ym Mhorth Tywyn.
Os ydych yn teithio o'r Gogledd drwy Crosshands A476 , Pont-iets B4309 neu Bontarddulais A4138 , yna dilynwch yr arwyddion melyn pan fyddwch yn cyrraedd Llanelli.
Os ydych yn teithio o'r Dwyrain ar hyd yr M4 , gadewch ar Gyffordd 47 a chymerwch yr ail allanfa ar y gylchfan tuag at Abertawe. Ar y gylchfan nesaf, cymerwch yr ail allanfa A484 i Lanelli.
O'r fan hon dilynwch yr arwyddion i Lanelli ac yna'r arwyddion melyn i'r meysydd parcio.
Bydd y Maes Carafanau yn cael ei leoli ar dir yng Nghastell y Strade sydd gyferbyn â Maes yr Eisteddfod. Unwaith eto, dilynwch yr arwyddion cyfeiriad melyn.
Bydd bysiau preifat yn cael eu cyfeirio at y Ganolfan Ymwelwyr Eisteddfod a pharcio oddi ar y safle.
Tacsis i ollwng a chasglu yng nghilfachau bws Coleg y Graig
Defnyddiwch yr arwyddion, os gwelwch yn dda - maent wedi'u gosod i'ch helpu i gyrraedd yr Eisteddfod.
Ffynhonnell: Gwefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net