Teulu o Benybont yn adfer y Gymraeg diolch i'r Urdd

15/05/2017

Categori: Addysg, Eisteddfod yr Urdd, Iaith, Newyddion

Saesneg oedd iaith teulu Jordan Morgan Hughes o Benybont ers pedair cenhedlaeth, ond diolch i addysg Gymraeg a’r Urdd, mae'n rhugl yn y Gymraeg ac yn gweithio’n ddyddiol trwy gyfrwng yr iaith ac mae'n edrych ymlaen at groesawu Eisteddfod yr Urdd i'r ardal.

Cafodd Jordan  ei addysg yn Ysgol Llanhari ac mae bellach yn gweithio fel Swyddog Datblygu Morgannwg Ganol gyda’r Urdd.  Symudodd ei deulu i lawr i dde Cymru yn ystod y chwyldro diwydiannol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, un ochr o Bwllheli a’r llall o Fae Colwyn, ond collwyd y Gymraeg yn fuan wedi hynny, nes i rieni Jordan benderfynu y byddent yn hoffi iddo ef a’i chwaer gael eu haddysg trwy Gymraeg.

 

Ond nid penderfyniad hawdd oedd i’w rieni ddewis addysg Gymraeg i’r ddau.  Yn ôl Jordan, “Yn wreiddiol, roedd fy rhieni o’r farn mai pobl oedd yn gallu siarad Cymraeg oedd yn anfon ei plant i ysgolion Cymraeg ond newidiodd y cyfan pan gafodd fy nhad sgwrs ar hap dros ginio gyda chyd-weithiwr di-Gymraeg oedd yn danfon ei blant i ysgol Gymraeg. Wedi misoedd o ystyried, ymweld â’r ysgol leol a pherswadio fy mam ei fod yn syniad da, fe wnaed y penderfyniad di-droi nôl y byddwn i a fy chwaer, Lowrie, yn derbyn addysg Gymraeg.”

 

Bellach yn 34 oed, mae Jordan yn byw ar y stryd lle cafodd ei eni ym Mhen-y-bont, a lle cafodd ei addysg gynradd yn Ysgol Gymraeg Pen-y-bont (Ysgol Bro Ogwr erbyn hyn). Mae ei dad yn byw rownd y gornel, ac mae ei swyddfa gyda’r Urdd wedi ei lleoli yn ei hen ysgol uwchradd, Ysgol Llanhari.

 

Er ei fod yn ei swydd ers 8 mlynedd, bu’n aelod o’r mudiad ers yn blentyn yn yr ysgol gynradd, gan gystadlu sawl gwaith. Ond yn yr ysgol uwchradd y datblygodd y berthynas wedi colled yn y teulu.

 

Dywedodd Jordan “Ar ôl colli fy mam ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Llanhari, cefais fy annog gan fy nhad a staff yr ysgol i gymryd mwy o ran yng ngweithgareddau’r Urdd. Bum yn swogio yn Llangrannog, mynd ar deithiau tramor, a chynorthwyo’r Swyddogion Datblygu lleol ar y pryd, oedd yn cynnwys Dyfrig Morgan, gafodd ddylanwad mawr arnaf.

 

“Bu’r cyfnod yma o brysurdeb yn sicr o gymorth i mi yn bersonol wrth i mi geisio ymdopi â cholli fy mam, roeddwn i mor brysur fel na chysgais i yn fy ngwely fy hun am ryw 11 penwythnos yn olynol!”

 

Un o’r profiadau sydd wedi aros yn y cof i Jordan oedd treulio wythnos yn ystod gwyliau’r ysgol, rhwng TGAU a Lefel A, yn byw yn yr awyr agored ac yn cysgu mewn sgubor yn ardal Caernarfon. Roedd ar gwrs datblygu arweinwyr y dyfodol gyda’i gyd-ddisgyblion o Ysgol Llanhari, ac eraill o Ysgol Rhydfelen. Gwnaeth y profiad o dreulio amser dwys gyda phobl o’r un cefndir ond mewn lleoliad gwahanol argraff pellgyrhaeddol arno, gan blannu’r syniad yn ei ben yr hoffai weithio i’r Urdd yn y dyfodol.

 

Pwysigrwydd yr Urdd

 

Mae Jordan o’r farn fod yr Urdd, yr Eisteddfod, â’r iaith Gymraeg yn berchen i blant yr ysgolion di-Gymraeg gymaint â’r ysgolion Cymraeg.

 

“Yr her sy’n ein hwynebu yw cyrraedd teuluoedd di-Gymraeg a dangos faint o fudd sydd yna i’r iaith. Rydym wedi sefydlu fforwm yr Urdd ymhob ysgol uwchradd ym Mhen-y-bont, ac mae un, Coleg y Dderwen, sydd â dim cysylltiad â’r iaith Gymraeg y tu allan i wersi statudol yn yr ysgol, wedi casglu dros £1,000 tuag at yr Eisteddfod.

 

Rhaid i ni annog pobl ifanc i siarad yr iaith bob dydd, a datblygu hyder pobl sydd wedi derbyn addysg Gymraeg flynyddoedd yn ôl ac sydd bellach yn meddwl nad ydi eu Cymraeg yn ddigon da. Gwell Cymraeg gwael na dim Cymraeg o gwbl!”

 

Ymweliad yr Eisteddfod

 

Mae dod â’r Eisteddfod i’r ardal wedi cael effaith bwysig ar sawl lefel, o sefydlu perthnasau positif newydd â’r cynghorau sirol a threfol i sefydlu pwyllgorau apêl cymunedol sydd wedi dod a phobl ynghyd a chreu cyfeillgarwch fydd yn parhau yn hir wedi i’r Eisteddfod ymadael.

 

“Mae pawb wedi gweithio mor galed i godi arian ac ymwybyddiaeth - heb eu gwaith nhw fyddai’r Eisteddfod ddim wedi gallu dod yma. Rydw i wir yn credu bod yr Urdd yn fudiad ar gyfer pobl o bob oed, nid i blant a phobl ifanc yn unig.

 

“Un effaith annisgwyl yr holl drefnu Eisteddfodol i mi yw ei fod wedi rhoi llwyfan i rieni ac aelodau hŷn y gymdeithas ddod at ei gilydd i gymdeithasu a gweithredu yn y Gymraeg. Rydw i’n hyderus y bydd y grwpiau yma yn parhau i gwrdd a chefnogi gweithgareddau drwy’r Gymraeg yn yr ardal wedi i’r Eisteddfod adael - gwaddol bositif tu hwnt i Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái!”

 

“Hoffwn ddiolch i’r holl wirfoddolwyr, y staff, a’r holl aelodau yn yr ardal am eu brwdfrydedd a’u gwaith caled – hebddyn nhw ni fyddai’r Eisteddfod yn digwydd heb sôn am fod mor llwyddiannus yn codi proffil yr Urdd â’r Gymraeg yn anhygoel yn lleol.”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru