'Trysor o gyfrol' yn rhoi darlun o fywyd y Wladfa

Bydd cyfrol newydd a gyhoeddir gan Wasg y Lolfa yn cael ei lansio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, yn rhoi darlun o fywyd y Wladfa o safbwynt tair gwraig ar ffurf ysgrifau a dyddiaduron. 

 

Disgrifiodd Elvey Macdonald y gyfrol sy’n dwyn y teitl Yr Etifeddiaeth Deg: O Gymru i Batagonia 1865 – 2015, fel “Trysor o Gyfrol y bu’n werth aros amdani” 

 

Cyflwynir y gwaith yn gyntaf ar ffurf ddyddiadur o eiddo Blodwen Camwy (1914–15, 1920) pan oedd yn ferch ifanc. Yn ei dyddiaduron mae’n disgrifio yn fyw iawn ei thaith fythgofiadwy ar draws y Paith o Ddyffryn Camwy i fferm Parc Unig, ger mynyddoedd yr Andes. Cyhoeddir hefyd ddetholiad helaeth o ysgrifau ei chwaer, Elisa Dimol de Davies, a’i nith, Gweneira Davies de González de Quevedo, merch Elisa.

 

Darlun byw

 

 

Mae’r deunydd yn rhoi darlun byw o fywyd yn y Wladfa, o gofnodi caledi bywyd i ddathlu eu balchder yn eu treftadaeth a’u hiaith. Yn ol Gweneira Gonzalez, bydd “croeso cynnes iawn i’r darlun cynhwysfawr yma o fywyd a diwylliant y Wladfa; cyfrol y byddai Gweneira yn falch iawn ohoni.”

 

Ganed golygydd y gyfrol, Robin Gwyndaf, yn yr Hafod, Llangwm, Uwchaled, tŷ wedi’i adeiladu gan Ann a Michael D Jones yn 1868. Yn 1965 enillodd Ysgoloriaeth Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol i fynychu dathliadau Canmlwyddiant y Wladfa, a dyna pryd y cyfarfu ag Elisa Dimol de Davies a’i merch Gweneira am y tro cyntaf.

 

Derbyn mwynglawdd o ysgrifau yn gyson gan Elisa a roes iddo’r syniad yn 1978 o osod cystadleuaeth flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn gyfyngedig i rai wedi byw gydol eu hoes yn yr Ariannin.

 

Cymrawd

 

Y mae Dr Robin Gwyndaf yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn Amgueddfa Werin Cymru ac yn gyn-Ddarlithydd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor. Cyhoeddwyd ganddo gyfres o lyfrau ar ddiwylliant gwerin Cymru, ac y mae’r gyfrol bresennol yn rhan o’r gyfres honno.