Wrecsam: Ail rownd Cwpan yr FA

10/11/2014

Categori: Chwaraeon, Newyddion

Bydd y Dreigiau'n gobeithio am well canlyniad na gawson nhw yn ail rownd Cwpan Lloegr y llynedd.

Wedi i'r enwau gael eu tynnu o'r het nos Lun, bydd Wrecsam yn wynebu naill ai Stevenage neu Maidstone United gartre' yn ail rownd Cwpan FA Lloegr.

 

Fe wnaethon nhw sicrhau eu lle yn y rownd nesa' wedi buddugoliaeth o 3-0 ar y Cae Ras bnawn Sul yn erbyn Woking.

 

Roedd y Dreigiau allan o'r Gwpan yn yr ail rownd y llynedd ar ôl colli gartre' yn erbyn Rhydychen.

 

Mae Casnewydd eisoes allan o'r gystadleuaeth eleni ar ôl colli yn Luton ddydd Sadwrn.

 

Bydd gemau'r ail rownd yn cael eu cynnal rhwng 5-8 Rhagfyr.

 

Bydd enwau timau yr Uwchgynghrair a'r Bencampwriaeth yn cael eu hychwanegu i'r het yn y drydedd rownd. 

 

Ffynnonell: Gwefan BBC Cymru Fyw      Dyddiad Cyhoeddi: 10/11/2014

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net