Y Cenhedloedd Unedig yn cydnabod un o gampweithiau llenyddol Cymru

11/06/2018

Categori: Addysg, Hamdden, Llenyddiaeth, Newyddion

Mae un o gampweithiau anghofiedig Cymru yn un o chwe thrysor Prydeinig sydd wedi eu hychwanegu at Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol, dan nawdd UNESCO.

Lluniwyd Cronicl Cymraeg Elis Gruffudd rhwng 1550 a 1552 gan filwr a gwas sifil a wasanaethai yn y garsiwn Seisnig yn Calais. Cronicla hanes y byd o’r Creu hyd at ddyddiau’r awdur, gan gyfuno ffeithiau hanesyddol, corff unigryw o chwedlau traddodiadol o Gymru, a thystiolaeth llygad dyst o gyfnod y Tuduriaid. Dyma’r cronicl Cymraeg cyntaf, ac olaf o’i fath.

 

Ganed Elis Gruffudd tua 1490 ym mhlwyf Llanasa, sir y Fflint. Ymunodd â’r fyddin Seisnig, gan ymladd fel milwr cyffredin mewn ymgyrchoedd yn yr Isalmaen, Gwlad Belg a Sbaen. Erbyn 1518, roedd yn byw yn Llundain, a symudodd yn barhaol i Calais yn 1530, trefedigaeth Seisnig yr honnid ar y pryd ei bod yn eiddo i Goron Lloegr. Arhosodd yno’n aelod o’r garsiwn Seisnig weddill ei ddyddiau, ac yno y lluniodd ei gronicl, er budd ei gyd-wladwyr uniaith yn ôl yng Nghymru (‘rhag i’r mater gael ei anghofio yn Llanasa’). Mae’n bosibl iddo gael ei ladd pan gipiwyd Calais gan y Ffrancod yn 1558.

 

Tardda llawer o gynnwys rhan olaf ei Gronicl o’r ffynonellau ysgrifenedig a llafar a oedd ar gael i’r awdur pan oedd yn byw yn Llundain a Calais, gan gynnwys:

•    ei brofiad ei hunan o ymgyrchoedd milwrol Seisnig dramor yn ystod hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg

•    adroddiadau llygad dyst unigryw o ddigwyddiadau megis y cyfarfyddiad enwog cydrhwng Harri VIII a Ffransis I o Ffrainc ar Faes y Brethyn Euraid ym Mehefin 1520

•    clecs gweision a morynion y Llys Brenhinol yn Llundain yn ymwneud â pherthynas odinebus Harri VIII ac Anne Boleyn

•    gwybodaeth ‘o ffynonellau agos’ am gwymp Thomas Cromwell, meistr Wolf Hall.

 

Dyma adroddiad sylwebydd Cymreig cyffredin o fywyd cyffrous a chyfnewidiol ei oes wrth iddo ysgrifennu’n alltud yn Llundain, ac ar ffiniau Lloegr yng Nghalais. Pabydd ydoedd pan gyrhaeddodd Galais yn 1530, ond daeth yn Brotestant pybyr yn y man, a hynny ar y blaen i fwyafrif ei gydwladwyr. Yn wir, gall mai ef oedd y Cymro cyntaf i droi’n Brotestant.

 

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr a Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:  "Ni ellir gor-bwysleisio pwysigrwydd y pedair cyfrol hyn. Hwn yw’r cronicl naratif mwyaf uchelgeisiol erioed i’w greu yn yr iaith Gymraeg, a dyma’r cyfanwaith rhyddiaith hwyaf yn yr iaith. Cynrychiola hefyd yr enghraifft wybyddus gynharaf o awdur Cymreig, yn ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa Gymreig, y hwnt i’r Deyrnas Gyfunol (er nad oedd, yn llythrennol, yn ysgrifennu y tu hwnt i ffiniau’r Deyrnas Gyfunol ar y pryd!)."

 

Ychwanegodd Pedr ap Llwyd: "Er iddo gael ei ddigido’n llawn, a’i gyhoeddi ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, braidd yn anghofiedig fu’r campwaith hwn yn ein mysg ni’r Cymry. Ni chopïwyd y gwaith cyfan erioed, na’i gyfieithu, na’i gyhoeddi’n gyfrol."

 

Amserol iawn

 

Dywedodd Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Mae ychwanegu Cronicl Elis Gruffudd at Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol eleni’n amserol iawn. Yn gyntaf, rydym wrth ein boddau i’r gwaith gael ei gynnwys ym mhrosiect Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru, Hanes Gogledd Ddwyrain Cymru mewn 100 Gwrthrych, a arianwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri. Yn ail, mae’n bleser cyhoeddi y bydd y Cronicl yn cael ei arddangos i’r cyhoedd, yn y Llyfrgell, mewn arddangosfa arbennig o drysorau Plasty Mostyn, sir y Fflint, rhwng 30 Mehefin a 8 Rhagfyr eleni. Trwy gyfrwng arddangosfa, darlithoedd cyhoeddus, a chynhadledd academaidd, rydym yn benderfynol y bydd Elis Gruffudd a’i Gronicl yn derbyn sylw dyladwy fel trysorau cenedlaethol yn 2018!’"