Ymateb y Cymry i ddifrod murlun eiconig yn symbyliad i gyfrol newydd

16/10/2019

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Ymateb y Cymry i’r difrod i’r murlun eiconig ger Llanrhystud, Aberystwyth yn gynharach eleni fu’r symbyliad i’r awdur Mari Emlyn greu cyfrol ddwyieithog sy'n cael ei chyhoeddi' yr wythnos hon gan Wasg y Lolfa – Cofiwch Dryweryn: Cymru’n Deffro.

Meddai’r awdures, Mari Emlyn: “Mae ein dyled yn fawr i’r criw ifanc aeth ati i ailgodi’r wal ac i ailbeintio’r murlun; pobl nad oedd wedi eu geni pan foddwyd Capel Celyn yn chwedegau’r ganrif ddiwethaf. Efallai i fandaliaid y murlun wneud ffafr â ni wrth i’r deffroad torfol gwladgarol gynyddu fel caseg eira yn sgil eu hanfadwaith. A hyd yn oed pan mae rhai o’r murluniau yma’n cael eu dileu, mae’r Cymry’n dychwelyd yn dawel urddasol i ailbeintio eu teyrngedau.”
 
Peintiwyd y slogan wreiddiol gan yr awdur toreithiog Dr Meic Stephens, a oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ar y pryd, yn brotest yn erbyn y penderfyniad i foddi Cwm Tryweryn er mwyn darparu dŵr ar gyfer trigolion Lerpwl. Er ei holl gynnyrch llenyddol aruchel, fe daerodd Meic Stephens: ‘Dyma fy natganiad enwocaf, fy ngherdd huotlaf, fy ngweithred boliticaidd bwysicaf.’
 
Mae’r gyfrol yn rhoi hanes ffenomenon murluniau eleni yng nghyd-destun hanes Capel Celyn gyda chyfraniadau gan dri sydd â’u gwreiddiau o dan ddyfroedd Llyn Celyn: Eurgain Prysor Jones, Gwyn Roberts ac Elwyn Edwards. Adroddir penodau cynnar y stori o’u persbectif personol, yn ogystal â chyfraniad gan Emyr Llewelyn a garcharwyd am flwyddyn am ei ran (gydag Owain Williams a John Albert Jones) i geisio rhwystro adeiladu’r argae yn Chwefror 1963. Ceir hefyd gyfraniad gan y cyflwynydd teledu a radio Huw Stephens, mab awdur y murlun gwreiddiol.
 
Dilynir hyn gan oriel o luniau a phytiau gan y cyhoedd a fu un ai’n peintio neu’n gwerthfawrogi ymdrechion eraill yn ystod y gwanwyn a’r haf – o Ben-y-bont ar Ogwr i Fwlch y Groes, o Langrannog i Lanuwchllyn - a hyd yn oed i Chicago. Blas yn unig a geir o’r cannoedd o furluniau sydd yn parhau i gael eu creu.

 

Cofnod o'r geiriau heriol

 

Meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd Yes Cymru: “Roedd dymchwel mur Cofiwch Dryweryn yn ymgais i ddymchwel cof a hunaniaeth Cymru fel cenedl. Mae’r llyfr hwn yn dangos na wnawn adael i hynny ddigwydd fyth eto. Mae’n gofnod o’r geiriau heriol, dewr ar waliau Cymru i gofio ein hanes a mynnu dyfodol gwell i’n cenedl.”

 
Daw’r awdur a’r actores Mari Emlyn yn wreiddiol o Gaerdydd, ond mae hi wedi hen ymgartrefu yn Y Felinheli gyda’i gŵr, ac wedi magu tri o feibion yna. Mae stori Tryweryn wedi dwyshau ei chred bod angen i Gymru, os yw hi am fod yn genedl falch a hyderus, gael gwybod ei hanes ei hun.
 
Bydd Cofiwch Dryweryn: Cymru’n Deffro yn cael ei lansio’n swyddogol am 7yh nos Wener yma yn Stiwdio 1, Galeri Caernarfon.