Yr Eira yn lansio sengl

09/11/2015

Categori: Cerddoriaeth, Newyddion

Mae Label Ikatching wedi cyhoeddi lansio sengl newydd gan fand addawol yr Eira o gyffiniau Bangor. 

 

Wrth gyhoeddi, dywedodd y Label fod y band poblogaidd wedi denu sylw’r cynhyrchydd adnabyddus Claudius Mittendorfer, fel yr eglurwyd, ‘Mae Yr Eira, un o fandiau poblogaidd I KA CHING yn mynd o nerth i nerth ac arwydd diweddar o hyn yw eu sengl newydd sbon danlli – Walk on Water – sydd wedi denu sylw neb llai na’r cynhyrchydd, peiriannydd a’r cymysgwr Claudius Mittendorfer. Wedi gweithio gydag enwau megis Temples, Johnny Mar ac Interpol, roedd denu sylw Mittendorfer yn dipyn o gamp. Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd Skype, roedd y cynhyrchydd enwog yn datgan ei hoffter o’r gân, ac y byddai’n hapus iawn i’w chymysgu.’

 

Fe fydd y trac newydd sbon danlli sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘pop melodig sy’n gwyro at y seicadelig, gyda mymryn o hud y dewin Claudius Mittendorfer’ ar gael i’w lawrlwytho ar Itunes ar Dachwedd 20fed. 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru