Yr Estrons am berfformio mewn llyfrgell yn Llanelli

21/08/2018

Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Hamdden, Newyddion

Fe fydd cyfle i fwynhau band pop-roc cyffrous yr Estrons yn Llyfrgell Llanelli ym mis Hydref eleni.

Mae aelodau’r Estrons yn gyfuniad o Gymru a Chanada ac fe fydd y gig fyw unigryw yma yn rhan o'r ymgyrch  'Get It Loud in Libraries'.

 

Bydd yr Estrons yn chwarae yno ddydd Sul 14 Hydref, ac mae tocynnau ar werth nawr. Bydd y gigs yn dirwyn i ben wythnos o ddigwyddiadau yn ystod Wythnos y Llyfrgelloedd o 8-13 Hydref pan fydd pob un o lyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn cynnal gweithgareddau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau yn Llyfrgell Llanelli dros y blynyddoedd ond dyma'r tro cyntaf i ni gynnal gigs cerddoriaeth fyw ymhlith y silffoedd llyfrau.

 

“Rydym wedi dweud ers tro bod llyfrgelloedd yn golygu mwy na dim ond llyfrau, ac mae hyn yn enghraifft wych.”

 

Llywodraeth Cymru

 

Mae gig yr Estrons wedi cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi addo i ariannu dau o ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd mewn amgueddfeydd a llyfrgelloedd yn ystod 2018.

 

Mae'r ymgyrch 'Get It Loud in Libraries' yn brosiect unigryw gyda'r nod o roi cyfle i bobl sy'n caru cerddoriaeth i weld artistiaid o fri yn eu llyfrgell leol.

 

Ers 2005, mae hyn wedi cynnwys gigs mewn llyfrgelloedd gan artistiaid newydd a rhai sydd wedi'u hen sefydlu gan gynnwys Adele, Jessie J, Plan B, Cate Le Bon, Clean Bandit, Juliette Lewis, Meilyr Jones a llawer mwy.