Yr heddlu am holi dyn yn dilyn mosodiad ar Rhys ap William
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio wedi i actor gael ei anafu'n ddifrifol wedi rhyddhau llun o ddyn maen nhw'n awyddus i siarad â fo.
Mae Rhys ap William, 37 oed, yn gwella ar ôl ymosodiad y tu allan i dafarn yng Nghaerdydd yn ystod oriau man bore Sul.
Yn ôl yr heddlu, fe gafodd yr actor ei ddarganfod gydag anafiadau difrifol i'w ben y tu allan i dafarn yr Admiral Napier ar Heol Ddwyreiniol Y Bont-faen yn Nhreganna, tua 0.19am.
Llun CCTV Mae'r heddlu'n awyddus i siarad gyda'r dyn yma a welwyd ger y dafarn
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i adroddiadau am y digwyddiad ac yn apelio am dystion.
Maen nhw'n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yng nghyffiniau bwyty Miss Millies gan gynnwys dyn gyda gwallt coch.
Mae'r actor yn adnabyddus fel cymeriad Cai Rossiter yn Pobol y Cwm.
Yn ddiweddar bu yn y gyfres Indian Doctor ac Alys.
Mae'r heddlu'n awyddus i siarad gyda'r dyn yma a welwyd ger y dafarn
Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu ar 029 2057 1545 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.