Ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ferched Cymreig

22/05/2019

Categori: Gwleidyddiaeth, Hamdden, Llenyddiaeth, Newyddion

Yr wythnos hon fe fydd Gwasg y Lolfa yn cyhoeddi Genod Gwych a Merched Medrus gan Medi Jones-Jackson.

Mae’r llyfr yn dilyn llwyddiant llyfrau Saesneg fel Rebel Girls ond dyma lyfr gwreiddiol sy’n cofnodi hanes 14 o ferched ysbrydoledig o Gymru ac mae’n ‘gyflwyniad perffaith i rai o ferched blaenllaw Cymru a wnaeth anelu’n uchel, cyrraedd y brig a newid siâp ein cenedl.’

 

Ceir hanes bywyd a ffeithiau diddorol am Tori James, Gwendoline a Margaret Davies, Betty Campbell, Frances Hoggan, Laura Ashley, Eileen Beasley, Amy Dillwyn, Kate Bosse Griffiths, Angharad Tomos, Jade Jones, Haley Gomez, Betsi Cadwaladr a Mair Russell-Jones. Mae’r casgliad yn amrywio o ran lleoliad daearyddol a meysydd gwahanol gan gynnwys meddygaeth, addysg, gwyddoniaeth, llên, chwaraeon a chelf. Mae pob un wedi cyflawni campweithiau yn eu meysydd penodol. Mae yna weithgareddau llawn hwyl a lliwgar ar ddiwedd y gyfrol, sy’n ymwneud â phob un o’r merched medrus. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys posau, holiadur, chwilair a chelf.

 

Dywedodd Medi Jones-Jackson, “Dwi wastad wedi ymddiddori mewn hanes merched. Mae gen i gof o ymweld â stad Erddig a chael fawr o ddiddordeb yn hanes y bobl grand fyny grisiau. Ond ysu am wybod mwy am hanes y merched oedd yn byw lawr grisiau oeddwn i – y bobol gudd. A dyna, yn wir, ydi hanes y ferch yn ein cenedl ni – anweledig.”

 

Cafodd Medi ei hysbrydoli wrth ddarllen stori cyn gwely i’w merch Anest, sy’n 6 oed. “Roedd y ddwy ohonom wedi bod yn darllen am hanes Simone Biles, Marie Curie ac Alicia Alonso a sylweddoli nad oedd dim ar gael yn Gymraeg yn trin a thrafod anturiaethau a chlodfori merched o Gymru.”

 

Y sbardun olaf oedd wrth iddi dderbyn neges gan ffrind yn ei hannog i ysgrifennu’r llyfr ar ôl iddi gwyno ar Facebook am y diffyg a’r bwlch yn farchnad.

 

“Mae’r broses wedi bod yn orchwyl gwych ac rwyf wedi mwynhau gweld fy syniadau’n dod yn fyw ar bapur,” meddai Medi.

 

Mae’r llyfr wedi’i ddylunio’n ddifyr ac yn lliwgar gan Dyfan Williams ac mae lluniau cartŵn Telor Gwyn yn ychwanegu at naws chwareus a hwyliog y gyfrol.

 

Ar ddechrau ac ar ddiwedd y llyfr mae enwau rhai o ferched Cymru wedi’u rhestri, ar ôl ymgyrch casglu enwau ar ddechrau’r gwanwyn eleni.

 

“Roedd yr ymateb yn hollol wych! Derbyniais dros 300 o enwau o fewn wythnos neu ddwy! Dwi am i ferched bach Cymru berchenogi’r llyfr yma – dyna oedd y syniad y tu ôl i gynnwys enwau yn y cloriau. Rwy am iddyn nhw sylweddoli bod unrhyw beth yn bosibl dim ond iddyn nhw freuddwydio, gweithio’n galed a sianelu eu hegni! Does dim byd allan o gyrraedd unrhyw ferch.”

 

Mae’r neges yn glir, ac yn cael ei nodi’n dda gan Tori James, a wireddodd ei breuddwyd drwy ddringo mynydd Eferest: “Os ydi merch o Sir Benfro yn gallu dringo mynydd uchaf y byd, mi fedri di hefyd wireddu dy freuddwydion. Y cwbl sydd eisiau ydi hunanhyder ac agwedd bositif.”

 

Gobaith Medi yw y bydd hanes y ferch yng Nghymru yn fwy gweledol, a bydd mwy o fechgyn a merched yn adnabod enwau’r merched yn y llyfr, a hanes y wlad.

 

Ffeithiau

  • Roedd chwaer Amy Dillwyn, y ddynes fusnes gyntaf yng Nghymru, yn un o ffotograffwyr cyntaf Cymru. Hi oedd y person cyntaf yn y byd i gyd i dynnu llun o ddyn eira!
  • Beth yw astroffiseg? Mae astroffisegwyr yn astudio sut mae planedau a sêr yn gweithio a sut datblygodd ein bydysawd.
  • Mae Medal Frances Hoggan yn cael ei roi fel gwobr i ferch o Gymru sydd yn arbenigo mewn gwyddoniaeth, meddygaeth, peirianneg, technoleg neu fathemateg.

Mae Medi Jones-Jackson wedi gweithio ym myd llyfrau plant a rheoli prosiectau hyrwyddo darllen. Mae’n fam i ddau o blant ac yn byw yn Bow Street. Mae Dyfan Williams yn ddylunydd profiadol, sydd wedi gweithio i Golwg ers blynyddoedd ond yn llawrydd erbyn hyn. Mae Telor Gwyn yn gweithio yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ac yn wreiddiol o ardal Aberystwyth.

 

Bydd Genod Gwych a Merched Medrus yn cael ei lansio’n swyddogol ar stondin Cyngor Llyfrau gyda Cant a Mil yn Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd am 2pm ar ddydd Llun 27 Mai.