Ysgol Sul yn lansio sengl newydd

16/03/2015

Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion

Ysgol Sul yn lansio sengl newydd

Bydd ail sengl y band addawol Ysgol Sul, 'Machlud Haul' yn cael ei rhyddhau ar label Ikaching heddiw. Daw’r sengl allan yn dilyn gwobrwyo Ysgol  Sul yn fand newydd gorau 2014 gan Gwobrau Selar a gynhaliwyd yn ddiweddar. 

 

Prawf o lwyddiant y sengl gyntaf - ‘Aberystwyth yn y Glaw’ a ryddhawyd fel rhan o Glwb Senglau Y Selar - oedd ymateb y dorf yng Ngwobrau’r Selar a oedd yn symud mewn undod i’r gân honno.  

 

Yn ôl y label,"Er y clod a ddaw o’r teitl hwnnw, mae sŵn Ysgol Sul yn cynnig pecyn llawer aeddfetach. Mae’r triawd o Landeilo wedi perffeithio eu sŵn lo-fi indie, shoegaze ac wedi hen ffeindio’u traed."

 

Fe gafodd y sengl ei ddisgrifio fel  gêm o denis gan y label Ikaching, "Yn fwy breuddwydiol na ‘Aberystwyth yn y Glaw’, mae ‘Machlud Haul’ yn gêm o denis synfyfyriol, rhwng y meddyliau dwys a’r dydi-pethe-ddim-cynddrwg-â-hynny."

 

Gellir gwrando ar y sengl Machlud isod.  Ewch i’w phrynu neu ei lawrlwytho.

 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net