Arweinydd Maes Y Gymraeg
Trosolwg
Dyma swydd allweddol yn yr ysgol gan y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am arwain adran fawr a blaengar wrth i’r ysgol edrych ymlaen yn hyderus at y cyfnod nesaf yn ei hanes.
Cyflogwr: Ysgol Glan Clwyd
Cyflog: Graddfa Cyflog Athro a Cad1b £10,202
Dyddiad Cau: 24/02/2021 (3 diwrnod)
Amser Cau: 00:00:00
Lleoliad
Ysgol Glan Clwyd Ffordd Dinbych Llanelwy, Sir Ddinbych, Cymru LL17 0RPGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Rhian Davies
Ffôn: 01745 582611
E-bost: danfonwch e-bost

Disgrifiad
Dyma swydd allweddol yn yr ysgol gan y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am arwain adran fawr a blaengar wrth i’r ysgol edrych ymlaen yn hyderus at y cyfnod nesaf yn ei hanes. Nid yn unig y mae angen gweledigaeth, egni a chadernid i arwain un o feysydd craidd yr ysgol, mae angen hefyd angerdd a thân dros y Gymraeg. Mae arwain maes y Gymraeg yn Ysgol Glan Clwyd yn fwy na swydd ond yn genhadaeth – dyma felly her gyffrous a chyfle ardderchog i ymgeiswyr priodol. Croesawn geisiadau gan ymgeiswyr sy’n awyddus ac yn gymwys i afael yn yr heriau uchod, a bod yn rhan o deulu Ysgol Glan Clwyd wrth i ni symud ymlaen eto’n hyderus.
Manylion Ychwanegol
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd i weld isod
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:
Pecyn Gwybodaeth y Swydd (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Mae disgrifiad yr atodiad ar goll (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)