Athro/Athrawes Gwyddoniaeth
Trosolwg
Dymunwn benodi erbyn 1 Medi 2021, athro/athrawes brwdfrydig a chymwys i addysgu yn y Gyfadran Wyddoniaeth.
Cyflogwr: Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig
Cyflog: £27,018 - £41,604
Dyddiad Cau: 14/04/2021 (1 diwrnod)
Amser Cau: 23:55:00
Lleoliad
Ffordd Llanbadarn Llangawsai Aberystwyth, Ceredigion, Cymru SY23 3QNGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Delyth Jones
Ffôn: +441970639499
E-bost: danfonwch e-bost

Disgrifiad
Bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at wersi TGAU Gwyddoniaeth. Gall fod cyfle hefyd i ymgeisydd addas addysgu ei bwnc/ei phwnc arbenigol at Safon Uwch. Ystyrir ceisiadau gan athrawon gydag arbenigedd mewn unrhyw bwnc gwyddonol.
Mae’r swydd hon yn addas i athrawon sydd newydd gymhwyso neu sydd yn y broses o gymhwyso yn ystod y flwyddyn. Mae rhaglen cefnogaeth gynhwysfawr ar gael i athrawon newydd gymhwyso.
Disgwylir ymrwymiad llawn i gefnogi a hyrwyddo addysg Gymraeg yn holl fywyd yr ysgol.
Manylion Ychwanegol
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd i weld isod
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:
Pecyn Swydd (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)