Comisiynydd Plant a Dysgwyr

Trosolwg

Bydd gennych gyfrifoldeb arbennig dros gomisiynu a goruchwylio darpariaeth plant a dysgwyr S4C. Byddwch yn gyfrifol am gynllunio, esblygu a gweithredu strategaeth eich genre ar draws holl lwyfannau...

Cyflogwr: S4C

Cyflog: Yn unol â phrofiad

Dyddiad Cau: 19/04/2021 (99 diwrnod)

Amser Cau: 12:00:00

Lleoliad

Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ ond disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol,

Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad

Bydd gennych gyfrifoldeb arbennig dros gomisiynu a goruchwylio darpariaeth plant a dysgwyr S4C. Byddwch yn gyfrifol am gynllunio, esblygu a gweithredu strategaeth eich genre ar draws holl lwyfannau darlledu a chyhoeddi cynnwys S4C.

Byddwch yn ddolen gyswllt allweddol, adeiladol a blaenweithgar gyda'r sector gynhyrchu annibynnol. Byddwch yn atebol yn y lle cyntaf i'r Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol.

Manylion Eraill

Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ ond disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.

Rydym yn annog pob cyflogai i gael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg, megis gweithio ystwyth, ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith gwahanol. Mae pob un ohonynt yn amodol ar anghenion busnes.

Oherwydd yr achosion o Coronafeirws, mae S4C wedi lleihau mynediad i'w swyddfeydd ar gyfer staff nad ydynt yn ymwneud â darlledu er mwyn sicrhau diogelwch a lles unigolion ac i ddiogelu darlledu. Felly, efallai y bydd gofyn i chi weithio o bell wrth ymuno â'r sefydliad os yw'r cyfyngiadau hyn yn dal i fod ar waith.

Cyflog: Yn unol â phrofiad

Cytundeb: 5 mlynedd

Oriau Gwaith: 35 ¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 y prynhawn ar Ddydd Llun 19 Ebrill 2021 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Manylion Ychwanegol

Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:

Manylion Swydd  (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)

Ffurflen Gais  (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)