Cyfarwyddwr Darpariaeth Addysg Gymraeg ac iechyd Gwledig ac Anghysbell mewn Addysg Feddygol
Trosolwg
Mae’r swydd hon yn gyfle cyffrous i ymuno ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, un o Ysgolion Meddygaeth blaenllaw’r DU.
Cyflogwr: Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Abertawe
Cyflog: £34,804 – £40,322 y flwyddyn a buddion Cynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS)
Dyddiad Cau: 31/01/2021 (7 diwrnod)
Amser Cau: 00:00:00
Lleoliad
Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Abertawe Abertawe, Abertawe, Cymru SA2 8PPGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Croesewir ymholiadau anffurfiol a dylid eu cyfeirio at sylw’r Athro Kamila Hawthorne, Pennaeth Meddygaeth i Raddedigion yn kamila.hawthorne@abertawe.ac.uk
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Cliciwch yma ar gyfer Sioe sleidiau. Gallwch hefyd glicio ar unrhyw un o'r lluniau i ddechrau sioe sleidiau.
Disgrifiad
Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn darparu ymagwedd ryngddisgyblaethol, gan addysgu a hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o feddygon, gwyddonwyr bywyd a gweithwyr iechyd proffesiynol. Mae'n cydweithio â'r GIG, busnesau a'r trydydd sector mewn ysbryd o arloesi agored ac mae wedi sefydlu ei hun fel lle o'r radd flaenaf i ddysgu, ymchwilio ac arloesi. Mae'r Ysgol Feddygaeth ar y brig yn y DU am amgylchedd ymchwil ac yn ail am ansawdd cyffredinol ymchwil (REF 2014-2021) ac yn drydydd am Feddygaeth (Canllaw Prifysgolion Da The Times and Sunday Times).
Yr Ysgol Feddygaeth oedd yr adran gyntaf yn y Brifysgol i ennill Uned Herio Cydraddoldeb Siarter Arian Athena SWAN yn 2015, ac ailddyrannwyd y statws iddi yn 2019 i gydnabod ei hymrwymiad i gydraddoldeb. Mae’r Brifysgol hefyd yn ddeiliad Gwobr Siarter Arian Athena SWAN.
Dyrannwyd statws Aur i’r Brifysgol yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr Llywodraeth y DU (TEF) i gydnabod ei safonau addysgu rhagorol.
Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe’n gwreiddio’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn y rhaglen feddygol. Caiff siaradwyr Cymraeg rhugl gwblhau rhannau o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg a chânt eu hannog i weld eu dwyieithrwydd fel rhinwedd ychwanegol y gellir ei defnyddio i ddarparu gwasanaeth o safon well i gleifion Cymraeg eu hiaith mewn amgylcheddau clinigol. Mae myfyrwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg yn derbyn cymorth ac arweiniad i feithrin hyder a dealltwriaeth o’r Gymraeg a diwylliant Cymru ac i fod yn gyfarwydd â nhw wrth iddynt hyfforddi a gweithio yng Nghymru. Nod yr ymagwedd hon yw cynyddu ymwybyddiaeth o anghenion ieithyddol a’r rhwystrau a wynebir gan wasanaethau iechyd ledled y byd, a sicrhau bod cydnabyddiaeth am iaith a pharch at iaith yn rhan o anghenion gofal iechyd, yn hytrach nag ychwanegiad.
Disgwylir i Gyfarwyddwr y Ddarpariaeth Addysg Gymraeg arwain tîm bach, gan dderbyn lefel uchel o gyfarwyddyd gan Bennaeth y rhaglen Meddygaeth i Raddedigion, yn yr Ysgol Feddygaeth. Mae’r Cyfarwyddwr yn gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau canlynol mewn sefyllfaoedd nad ydynt yn or-gymhleth:
Cyfarwyddwr darpariaeth addysg Gymraeg y rhaglen Meddygaeth i Raddedigion
Cyfarwyddwr Iechyd Gwledig ac Anghysbell mewn Addysg Feddygol (RRHIE), gan gysylltu â’r Asiantaeth Gofal Sylfaenol
Hyrwyddo lles ehangach y cyhoedd yn eich holl weithredoedd, gweithredu mewn modd sy’n briodol yn foesegol, yn gyfreithiol ac yn gymdeithasol yn eich holl gysylltiadau â rhanddeiliaid ac aelodau’r tîm Meddygaeth i Raddedigion a’r Brifysgol.
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau cais ar-lein gan ddarparu tystiolaeth yn seiliedig ar y meini prawf hanfodol yn y ddogfennaeth recriwtio. Dylai ymgeiswyr hefyd atodi dwy ddogfen ar wahân i’r cais:
1. Curriculum Vitae;
2. Datganiad sy’n rhoi manylion am eich dyheadau i wella addysgu a phrofiad myfyrwyr.
Manylion Ychwanegol
Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd i weld isod
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:
Disgrifiad Swydd Cyfarwyddwr Darpariaeth (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)