Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmer
Trosolwg
Mae hwn yn rôl Gwasanaethau Cwsmeriaid dwyieithog, sy’n gofyn am berson sy’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Cyflogwr: City & Guilds
Cyflog: £20,600
Dyddiad Cau: 17/01/2021 (7 diwrnod)
Amser Cau: 17:00:00
Lleoliad
Caerdydd, Gweithio o adrefGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol
Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad
Mae hwn yn rôl Gwasanaethau Cwsmeriaid dwyieithog, sy’n gofyn am berson sy’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig. Yn y rôl byddwch yn delio ag ymholiadau gan gwsmeriaid sy’n cynnwys canolfannau a dysgwyr ar y ffôn a thrwy e-bost. Byddwch yn gweithio gydag adrannau ar draws y grwp a chorff dyfarnu arall er mwyn llwyr datrys ymholiadau. Byddwch yn cynnal digwyddiadau cwsmeriaid ar gyfer cymwysterau newydd yn lleol ac yn cefnogi swyddfa City & Guilds Caerdydd. Mae gweithio fel rhan o dîm yn bwysig iawn i’r rôl hwn i sicrhau fod taith y cwsmer yn un rhagorol.
Am Y Rôl
Chi bydd y pwynt cyntaf am holl ymholiadau gwasanaeth cwsmeriaid, gan ddarparu ymateb gwybodus ar y ffôn ac ar ebost. Byddwch yn cymryd cyfrifoldeb am holl ymholiadau gydag agwedd bositif, gan sicrhau bodlonrwydd cwsmeriaid a rheoli dilyniant gwasanaeth. Byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth o systemau TG, felly mae’n bwysig eich bod chi’n gyfforddus ac yn medrus wrth ddefnyddio technoleg. Pan fydd y swyddfa'n ailagor, bydd wedi'i lleoli yn swyddfa Caerdydd.
Amdanoch Chi
Dylai’ch cais dangos sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a gweinyddol ardderchog. Bydd profiad o’r sector addysg neu sector hyfforddiant yn ddefnyddiol. Mae angen i chi fod yn benderfynol ac am geisio rhagori disgwyliadau cwsmeriaid, a dylai fod gennych angerdd am gynnal eich datblygiad personol. Mae gan y rôl nifer o ofynion gwahanol, felly bydd angen i chi fod yn hyblyg, rhagweithiol, a’r gallu i ddefnyddio eich blaengaredd i ddatrys problemau. Mae sgiliau Cymraeg rhagorol yn hanfodol. Mae hon yn rôl gartref tra bod ein swyddfa yng Nghaerdydd ar gau.
Manylion Ychwanegol
Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*