Cynorthwyydd Cefnogi Myfyrwyr
Trosolwg
Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am Gynorthwyydd Cefnogi Myfyrwyr i ymuno â’r tîm gwasanaethau proffesiynol a rhoi cymorth clerigol, gan ganolbwyntio ar faterion academaidd.
Cyflogwr: Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Cyflog: £19,202 - £21,414 y flwyddyn (Gradd 3)
Dyddiad Cau: 23/09/2019 (73 diwrnod)
Amser Cau: 17:00:00
Lleoliad
Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd Adeilad John Percival, Rhodfa Colum Caerdydd, Caerdydd, Cymru CF10 3EUGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Cyflwyniad Fideo
Disgrifiad
Cynorthwyydd Cefnogi Myfyrwyr
Cyflog: £19,202 – £21,414 y flwyddyn (Gradd 3) (ni fyddwn yn apwyntio yn uwch na phwynt cyntaf y radd)
Rhif y swydd: 9029BR
Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am Gynorthwyydd Cefnogi Myfyrwyr i ymuno â’r tîm gwasanaethau proffesiynol a rhoi cymorth clerigol, gan ganolbwyntio ar faterion academaidd.
Mae'r swydd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau gweinyddol i gynorthwyo'r gwasanaethau proffesiynol cyffredinol yn yr Ysgol, gan gynnwys gweinyddiaeth recriwtio a derbyn, amserlennu ac asesu, bod yn bwynt cyswllt cyntaf i fyfyrwyr yr Ysgol, a chynorthwyo’r Swyddog Cefnogi Myfyrwyr.
Am ragor o fanylion cewch gysylltu â Cadi Thomas Ebost: thomascr9@caerdydd.ac.uk
Mae’r swydd hon yn un llawn amser (35 awr yr wythnos) a phen-agored.
I wneud cais, ewch i'n gwefan: www.cardiff.ac.uk/jobs
Dyddiad Cau: Dydd Llun, 23 Medi 2019.
Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Manylion Ychwanegol
Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*