Cynorthwyydd Ymwelwyr/Caffi

Trosolwg

Rydym yn paratoi ar gyfer tymor 2020 ac mae nifer o swyddi rhan amser ar gael. Mae hyn yn cynnwys paratoi a gweini bwyd ffres yn y caffi a/neu ysbrydoli ymwelwyr gyda stori Mary Jones yn y ganolfan.

Cyflogwr: Cymdeithas y Beibl

Cyflog: £9.30 yr awr

Dyddiad Cau: 19/02/2020 (5 diwrnod)

Amser Cau: 11:55:00

Lleoliad

Llanycil Bala, Gwynedd, Cymru LL23 7YF

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Nerys Siddall

Ffôn: 01678 521877

E-bost: danfonwch e-bost

Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad

Amryw o swyddi rhan amser ar gael

Byd Mary Jones, Y Bala

£9.30 yr awr – Cytundeb tymor sefydlog

Agored 6 diwrnod yr wythnos, Dydd Mawrth i Ddydd Sul

O 3 Ebrill hyd 31 Hydref 2020, o 10 am i 4 pm

Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Byd Mary Jones yn 2020 ac rydym yn chwilio am bobl groesawgar sydd â doniau arlwyo. Gan weithio fel rhan o dîm, byddwch yn cynnig profiad o’r radd flaenaf i ymwelwyr, gan eu hannog i ymweld dro ar ôl tro. Mae’r swydd yn cynnwys paratoi a gweini bwyd ffres yn y caffi a/neu ysbrydoli ymwelwyr gyda stori Mary Jones yn y ganolfan ymwelwyr.

I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr yn disgrifio’ch addasrwydd ar gyfer y swydd ar-lein drwy fynd i’r adran Newyddion ar ein gwefan www.bydmaryjonesworld.org.uk

Dyddiad cau: 19 Chwefror 2020

Cyfweliadau: 25-26 Chwefror 2020

Manylion Ychwanegol

Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd i weld isod

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:

Swydd Ddisdrifiad  (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)