Darlithydd Mathemateg (TGAU/Sgiliau Hanfodol)

Trosolwg

Mae datblygu sgiliau Mathemateg ein dysgwyr yn flaenoriaeth, felly rydym wedi buddsoddi yn sylweddol yn ein Tîm Sgiliau newydd. O ganlyniad i swydd wag yn yr adran rydym yn chwilio am ddarlithydd...

Cyflogwr: Coleg Gwent

Cyflog: £20,021 - £39,401

Dyddiad Cau: 03/07/2019 (15 diwrnod)

Amser Cau: 23:55:00

Lleoliad

Campws Crosskeys FFordd Rhisga, Crosskeys Casnewydd, Cymru NP11 7ZA

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Mark Harding

Ffôn: 01495 333960

Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad

DARLITHYDD MATHEMATEG (TGAU/SGILIAU HANFODOL)

Arweinydd cwricwlwm ar gyfer mathemateg

Campws Crosskeys

37.00 awr yr wythnos

£20,021 - £39,401 y flwyddyn

Mae datblygu sgiliau Mathemateg ein dysgwyr yn flaenoriaeth, felly rydym wedi buddsoddi yn sylweddol yn ein Tîm Sgiliau newydd. O ganlyniad i swydd wag yn yr adran rydym yn chwilio am ddarlithydd Mathemateg eithriadol i ymuno â’n tîm.

Mae gan ein coleg ddisgwyliadau uchel o ran ansawdd y dysgu, yr addysgu a’r asesu, ac rydym yn gweithio gyda thîm ymroddedig o athrawon arbenigol.

Os ydych yn athro Mathemateg, buasem yn hoffi clywed gennych. Dylech fod wedi cymhwyso mewn Mathemateg, yn athro mathemateg profiadol a meddu ar strategaethau arloesol i ennyn diddordeb dysgwyr a sicrhau eu bod nhw’n cyrraedd eu potensial llawn.

Mae sgiliau trefnu a chyfathrebu yn hanfodol i gynllunio gwersi er mwyn sicrhau deilliannau llwyddiannus o fewn yr amserlen cyflwyno.

Mae dealltwriaeth o sicrhau ansawdd ac asesu ar gyfer dysgu yn hanfodol. Byddai dealltwriaeth o anghenion cwsmeriaid o wahanol gefndiroedd yn fanteisiol i’r ymgeisydd llwyddiannus.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel sylfaenol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant) yn ddymunol.

Mae’r Coleg yn ymroddedig i ddiogelu a sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestru gyda’r Cyngor y Gweithlu Addysg.

Dalier sylw y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manwl a chofrestru gyda’r Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC).

Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsrywiol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol â'n polisi Cyfle Cyfartal.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.

Dyddiad Cau: 03.07.19

Dyddiad Cyfweliad : l’w gadarnhau

Manylion Ychwanegol

Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd i weld isod

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:

Pecyn i Ymgeiswyr - Cymraeg  (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)