Cymorth Llywodraethu
Trosolwg
Cynnal prosesau llywodraethu ansawdd uchel y sefydliad trwy: 1.Darparu cymorth proffesiynol o safon uchel i’r Cyfarwyddwyr Gweithredol. 2. Gweithio gyda’r Tîm Rheoli Gweithredol i’w helpu i...
Cyflogwr: Gofal Cymdeithasol Cymru
Cyflog: £24,769 - £27,414
Dyddiad Cau: 29/11/2020 (48 diwrnod)
Amser Cau: 12:00:00
Lleoliad
Caerdydd neu St Asaph (yn gweithio gartref ar hyn o bryd)Gwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol
E-bost: danfonwch e-bost

Disgrifiad
Swydd: Cymorth Llywodraethu
Adran: Gwasanaethau Corfforaethol
Lleoliad: Caerdydd neu Llanelwy (yn gweithio o gartref ar hyn o bryd)
Band cyflog: A2 £24,769 - £27,414
Atebol i:Uwch Swyddog Llywodraethu
Mae'r swydd hon ar gontract tymor penodol tan fis Chwefror 2022. Cynhelir cyfweliadau ar 7 Rhagfyr 2020.
Diben y Swydd:
Cynnal prosesau llywodraethu ansawdd uchel y sefydliad trwy:
1. Darparu cymorth proffesiynol o safon uchel i’r Cyfarwyddwyr Gweithredol
2. Gweithio gyda’r Tîm Rheoli Gweithredol i’w helpu i gyflawni eu dyletswyddau
3. Gweinyddu cyfarfodydd Pwyllgorau yn unol â safonau ansawdd
4. Cefnogi cyfarfodydd y tîm rheoli gweithredol a’r uwch dîm arwain
5. Darparu cymorth effeithiol ac effeithlon i raglenni a phartneriaethau
6. Cynorthwyo i ddarparu gweithgareddau cynllun gwaith blynyddol y tîm llywodraethu
Cyfrifoldebau allweddol:
1. Darparu cymorth proffesiynol o safon uchel i’r Cyfarwyddwyr Gweithredol
• Cynhyrchu dogfennau o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt
• Rheoli a chadw dyddiaduron, trefnu cyfarfodydd, gwestai a threfniadau teithio
• Comisiynu, paratoi, sicrhau ansawdd a briffio deunyddiau a chyflwyniadau i’r Tîm Rheoli Gweithredol cyn cyfarfodydd
• Cadw a chynnal system ffeilio electronig gywir
• Paratoi a llunio gohebiaeth ar ran y Tîm Rheoli Gweithredol
• Cefnogi gwaith cyfathrebu mewnol ac allanol effeithiol ar ran y Tîm Rheoli Gweithredol
• Cyfieithu darnau bach o waith ar gyfer y Tîm Rheoli Gweithredol, y Cadeirydd a’r tîm Llywodraethu
2. Gweithio gyda’r Tîm Rheoli Gweithredol i’w helpu i gyflawni eu dyletswyddau
• Trafod gyda Llywodraeth Cymru a swyddogion eraill ar ran y Tîm Rheoli Gweithredol
• Rheoli gwybodaeth i’r Tîm Rheoli Gweithredo, cadw cyfrinachedd wrth ymdrin â gwybodaeth sensitif, bersonol neu gyfrinachol
3. Gweinyddu cyfarfodydd Pwyllgorau yn unol â safonau ansawdd
• Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr arweiniol a Chadeirydd y Pwyllgor i baratoi agendâu cyfarfodydd Pwyllgorau a sicrhau ansawdd a dosbarthu papurau
• Paratoi briff y Cadeirydd
• Mynd i’r cyfarfodydd
• Llunio cofnodion i’w hadolygu gan y Cyfarwyddwr a’r Cadeirydd perthnasol yn dilyn y cyfarfod;
• Cydgysylltu arolwg effeithiolrwydd blynyddol, cynllun gweithredu a monitro cynnydd gyda Chyfarwyddwr a Chadeirydd y Pwyllgor.
4. Cydgysylltu a chefnogi cyfarfodydd y tîm rheoli gweithredol a’r uwch dîm arwain
• Gweithio gyda’r swyddog arweiniol i lunio agendâu
• Sicrhau ansawdd a dosbarthu papurau
• Mynd i gyfarfodydd a chymryd cofnodion
• Diweddaru camau gweithredu a gwybodaeth
• Ysgrifennu cofnodion
5. Darparu cymorth effeithiol ac effeithlon i raglenni a phartneriaethau
• Cyfrannu at gynllunio rhaglenni a chefnogi’r gwaith o’u gweithredu a’u monitro i gyflawni’r canlyniadau a fwriadwyd.
• Darparu cymorth i raglenni drwy gofnodi, coladu a chynnal dogfennau rhaglenni yn cynnwys cynlluniau gweithredu, cofrestri risgiau a phroblemau, llyfrgell wybodaeth rhaglenni
6. Cynorthwyo i ddarparu gweithgareddau cynllun gwaith blynyddol y tîm llywodraethu
• Cynorthwyo’r tîm i arwain ar waith datblygu a gweithredu systemau llywodraethu yn y sefydliad a sicrhau bod safonau corfforaethol yn cael eu cynnal ledled y sefydliad
• Cynorthwyo staff ac aelodau’r Bwrdd gydag unrhyw anghenion penodol sydd ganddynt fel y gallant gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol
• Bod yn ffynhonnell wybodaeth a chyngor arbenigol i gydweithwyr ledled y sefydliad ar faterion llywodraethu, yn cynnwys y Bwrdd, dwyieithrwydd, cywair a safonau ansawdd er mwyn cynnal safonau uchel y sefydliad
• Hyrwyddo ac integreiddio ethos dwyieithrwydd Gofal Cymdeithasol Cymru a glynu at Safonau’r Gymraeg yn holl waith y tîm, a sicrhau bod hyn y ganolog i waith y sefydliad
Bydd gofyn i chi wneud y canlynol hefyd:
• Gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer y Cyfarwyddwyr Gweithredol, yn fewnol ac allanol, gan weithredu system o reoli ac ailgyfeirio ymholiadau lle bo’n briodol.
• Bod yn ymwybodol o’r cyd-destun gwleidyddol y mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n gweithredu ynddo.
• Deall trefniadau rheoli a dosbarthu gohebiaeth ar gyfer y Cyfarwyddwyr Gweithredol.
• Sicrhau bod yr holl wybodaeth sy’n cael ei darparu gan y tîm Llywodraethu Corfforaethol yn mynd trwy broses sicrhau ansawdd ac yn cael ei darparu i safon Gofal Cymdeithasol Cymru.
• Blaenoriaethu llwyth gwaith amrywiol i sicrhau bod amserlenni’n cael eu bodloni’n gyson.
• Cyflenwi dros aelodau eraill y tîm lle bo’n briodol.
• Cyfrannu at adolygu a datblygu systemau a phrosesau gweinyddu a swyddfa drwy awgrymu gwelliannau a gweithio gydag aelodau’r tîm i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yr holl brosesau.
• Diweddaru’r wefan a’r rhyngrwyd gyda gwybodaeth gywir wedi’i thargedu.
• Hyrwyddo gwerthoedd, arferion gwrth-wahaniaethu, cyfle cyfartal a safonau’r Gymraeg, a’u hintegreiddio’n effeithiol, ym mhob agwedd ar y gwaith, a rhoi defnyddwyr gwasanaethau wrth wraidd yr agenda.
• Ymateb yn rhagweithiol i gydweithwyr, cymryd rhan mewn gwaith tîm, gweithio yn unol â pholisïau a gweithdrefnau corfforaethol a chyfrannu at redeg Gofal Cymdeithasol Cymru.
• Cwblhau hyfforddiant perthnasol a chynorthwyo i hyfforddi eraill lle bo angen.
• Cyflawni dyletswyddau eraill ar gais sy’n rhesymol ac yn briodol i lefel y swydd.
Manylion Ychwanegol
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd i weld isod
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:
Dsgrifiad swydd a ffurflen gais - Cymraeg (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Ffurflen cydraddoldeb - Cymraeg (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Job description and application form - English (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Equality form - English (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)