Swyddog Cynorthwyol Gwersyll yr Urdd, Caerdydd
Trosolwg
Mae gennym gyfle cyffrous i berson trefnus ac egniol fel Swyddog Cynorthwyol i gynnig gwasanaeth cyflawn a thrylwyr i’r Gwersyll ac i gyfrannu at rediad y Gwersyll a’r Swyddfa yn gyffredinol.
Cyflogwr: Urdd Gobaith Cymru
Cyflog: Graddfa 5: £19,928 (Pwynt 1) - £23,102
Dyddiad Cau: 04/11/2019 (41 diwrnod)
Amser Cau: 17:00:00
Lleoliad
Gwersyll yr Urdd Caerdydd Canolfan Mileniwm Cymru Plas Bute, Caerdydd, Cymru CF10 5ALGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Ceren Roberts
Ffôn: 029 2063 5672
Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad
Teitl y Swydd: Swyddog Cynorthwyol Gwersyll yr Urdd Caerdydd
Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Graddfa 5 (£19,928 pwynt 1 - £23,102 pwynt 6)
Lleoliad: Gwersyll yr Urdd Caerdydd
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad sy’n parhau i dyfu ac arloesi, ac yn un o’r cyflogwyr mwyaf sy’n gweithredu trwy'r Gymraeg. Fe sefydlwyd yn 1922, ac erbyn heddiw cyflogir dros 300 o staff, bron 55,000 o aelodau, 10,000 o wirfoddolwyr a throsiant o £10m. Byddwn yn dathlu ein pen-blwydd yn 100 yn 2022 gan weithio gydag ein haelodau a’n gwirfoddolwyr ynghyd ac amryw o bartneriaid sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, S4C, BBC, Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Chwaraeon Cymru, Ysgolion a Cholegau Cymru.
Y Swydd
Gwersyll 4* a Chanolfan Cynadleddau o dan do adeilad unigryw Canolfan Mileniwm Cymru yw Gwersyll yr Urdd Caerdydd. Rydym yn croesawu dros 12,000 o ymwelwyr y flwyddyn ar ymweliadau preswyl o bob cwr o Gymru a thros y byd. Mae gennym berthynas dda gyda holl gyflenwyr gweithgareddau y Bae a’r Ddinas a lleolir swyddfeydd adrannau eraill o’r Mudiad yn y Gwersyll yn ogystal. Bydd y Swyddog Cynorthwyol yn cynnig gwasanaeth cyflawn a thrylwyr i’r Gwersyll ac yn cyfrannu at rediad y Gwersyll a’r Swyddfa yn gyffredinol.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Ceren Roberts, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Caerdydd ar 029 2063 5672 neu cerenroberts@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Dyddiad Cau – 17:00 ar 4 Tachwedd 2019
Dyddiad Cyfweld – 14 Tachwedd 2019
Manylion Ychwanegol
Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd i weld isod
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:
Disgrifiad swydd (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Ffurflen gais (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Ffurflen Cyfle Cyfartal (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)