Swyddog Ieuenctid Caerffili
Trosolwg
Mae gennym gyfle cyffrous i berson brwdfrydig ymuno â’r tîm Ieuenctid a Chymunedol fel Swyddog Ieuenctid yn ardal Caerffili.
Cyflogwr: Urdd Gobaith Cymru
Cyflog: Graddfa 5: £19,928 (Pwynt 1) - £23,102
Dyddiad Cau: 05/07/2019 (154 diwrnod)
Amser Cau: 17:00:00
Lleoliad
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni / Bwrdeistref Sirol CaerffiliGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Dai Bryer
Ffôn: 07976 00 33 21
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad
Teitl y Swydd: Swyddog Ieuenctid Caerffili
Math o gontract: Swydd llawn amser, cytundeb tymor-penodol.
(Cytundeb i ddechrau Medi 2019 hyd at ddiwedd Mawrth 2020 yn y lle cyntaf - Y nod yw parhau gyda’r swydd ond mae hyn yn ddibynnol ar gyllid).
Oriau: 35 awr yr wythnos ( yn cynnwys oriau anghymdeithasol - nos a phenwythnosau)
Graddfa: Graddfa 5: £19,928 (Pwynt 1) - £23,102 (Pwynt 6)
Lleoliad: Ysgol Gyfun Cwm Rhymni / Bwrdeistref Sirol Caerffili
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad sy’n parhau i dyfu ac arloesi, ac yn un o’r cyflogwyr mwyaf sy’n gweithredu trwy'r Gymraeg. Fe sefydlwyd yn 1922, ac erbyn heddiw cyflogir dros 300 o staff, bron 55,000 o aelodau, 10,000 o wirfoddolwyr a throsiant o £10m. Byddwn yn dathlu ein pen-blwydd yn 100 yn 2022 gan weithio gydag ein haelodau a’n gwirfoddolwyr ynghyd ac amryw o bartneriaid sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, S4C, BBC, Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Stonewall Cymru, Chwaraeon Cymru, Ysgolion a Cholegau Cymru.
Y swydd
Mae gennym gyfle cyffrous i berson brwdfrydig ymuno â’r tîm Ieuenctid a Chymunedol fel Swyddog Ieuenctid yn ardal Caerffili. Mae’r swydd yn bartneriaeth rhwng Urdd Gobaith Cymru, Menter Iaith Caerffili a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’r prif nod yw cynnig gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg ar gyfer phobl ifanc yr ardal er budd dylanwadu ar eu dewis o iaith gymdeithasol.
Am ragor o fanylion cysylltwch â Dai Bryer 07976 00 33 21 neu daibryer@urdd.org
.
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Dyddiad Cau: Gorffennaf 5 2019
Dyddiad Cyfweliad: Gorffennaf 12 2019
Manylion Ychwanegol
Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd i weld isod
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:
Disgrifiad swydd (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Ffurflen gais (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Ffurflen Cyfle Cyfartal (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)