Uwch Swyddog Adnoddau Dynol
Trosolwg
Mae’r Urdd yn chwilio am Uwch Swyddog Adnoddau Dynol i ymuno a’n tîm deinamig sy'n darparu gwasanaeth Adnoddau Dynol proffesiynol a chynhwysfawr.
Cyflogwr: Urdd Gobaith Cymru
Cyflog: £33,067 - £38,334
Dyddiad Cau: 03/12/2020 (43 diwrnod)
Amser Cau: 17:00:00
Lleoliad
Swyddfa’r Urdd yng Nghaerdydd, Glan-llyn, Llangrannog, Dinbych neu AbertaweGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Nicola Scofield
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad
Teitl y Swydd: Uwch Swyddog Adnoddau Dynol
Math o gytundeb: Swydd barhaol, llawn amser, 35 awr yr wythnos
Graddfa: Graddfa 9 - £33,067 (Pwynt 1) - £38,334 (Pwynt 6)
Lleoliad: Swyddfa’r Urdd yng Nghaerdydd, Glan-llyn, Llangrannog, Dinbych neu Abertawe
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922, wedi cyflawni llawer wrth gynnig profiadau Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol a Gwirfoddoli i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae hyn wedi eu galluogi i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau a chymdeithas, ymestyn eu gorwelion a chynyddu eu hunan hyder.
Mae’r Urdd wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Ar drothwy ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Mae’r Urdd yn chwilio am Uwch Swyddog Adnoddau Dynol i ymuno a’n tîm deinamig sy'n darparu gwasanaeth Adnoddau Dynol proffesiynol a chynhwysfawr. Gyda’r gallu i ddatblygu perthynas effeithiol gyda rheolwyr llinell, bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwaith o gyflawni ein Strategaeth Pobl newydd, sy'n cynnwys adolygiad llawn o bolisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol, a thrawsnewid dilynol o ran gallu a diwylliant rheolwyr ar bob lefel. Y prif ddiben dros y misoedd nesaf fydd i gefnogi newid sefydliadol.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Nicola Scofield, Rheolwr Adnoddau Dynol, nicola@urdd.org
Ffurflen Gais yr Urdd i'w hanfon ar e-bost at swyddi@urdd.org
Dyddiad Cau – 17:00 ar Ddydd Iau, 3 Rhagfyr 2020
Dyddiad Cyfweld – Dydd Gwener, 11 Rhagfyr 2020 (dros Teams)
Manylion Ychwanegol
Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd i weld isod
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:
Ffurflen Gais (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Disgrifiad Swydd (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Ffurflen Cyfle Cyfartal (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)