Golygydd Newyddion Digidol S4C

Trosolwg

Dyma gyfle unigryw i arwain gwasanaeth arloesol fydd yn siapio hinsawdd newyddiadurol Cymru i'r dyfodol. Yn arweinydd wrth reddf byddwch yn ysgogi tîm o newyddiadurwyr i sefydlu, cynnal a...

Cyflogwr: S4C

Cyflog: Cyflog Cystadleuol

Dyddiad Cau: 17/09/2020 (7 diwrnod)

Amser Cau: 17:00:00

Lleoliad

Canolfan S4C, Yr Egin Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, Cymru SA31 3EQ

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol

E-bost: danfonwch e-bost

Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad

Mae S4C yn lansio gwasanaeth newyddion digidol fydd yn dod a'r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg o amrywiol ffynonellau.

Dyma gyfle unigryw i arwain gwasanaeth arloesol fydd yn siapio hinsawdd newyddiadurol Cymru i'r dyfodol. Yn arweinydd wrth reddf byddwch yn ysgogi tîm o newyddiadurwyr i sefydlu, cynnal a datblygu'r gwasanaeth.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu gwasanaeth digidol o'r newydd a denu dilyniant.

Bydd gennych brofiad golygyddol a dealltwriaeth o'r gyfraith yn ymwneud â'r wasg a'r cyfryngau, yn ogystal â'r gallu i adeiladu perthnasau positif gyda phobl a sefydliadau er mwyn datblygu a chynnal partneriaethau.

Mae sgiliau ieithyddol cryf yn bwysig i'r rôl i allu sicrhau safon a chywirdeb, yn ogystal â gosod tôn ac arddull priodol ar gyfer y gwasanaeth.

Bydd gennych drwyn am stori a'r gallu i fod yn greadigol gyda'r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy'n dal y llygad ac yn creu sŵn.

Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.

Os oes gennych chi'r sgiliau a'r profiad i helpu ni i adeiladu gwasanaeth newydd byddem yn hoffi clywed gennych.


Manylion Eraill

Lleoliad: Lleoliad arferol y swydd yw Canolfan S4C Yr Egin, ac mae S4C yn cynnig trefniadau gweithio'n hyblyg.

Cyflog: Cystadleuol

Cytundeb: 24 mis

Oriau Gwaith: 35 ¾ yr wythnos.Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun.Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Iau 17 Medi 2020 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.Nid ydym yn derbyn CV.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Manylion Ychwanegol

Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd i weld isod

Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:

Manylion Swydd  (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)

Ffurflen Gais  (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)