Pennaeth

Trosolwg

Erbyn Medi 2020, mae Corff Llywodraethol Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig am benodi Pennaeth brwd sydd â’r gallu i arwain, ysbrydoli ac ysgogi y gymuned ysgol gyfan.

Cyflogwr: Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

Cyflog: L23 – L29 (£70,556 – £81,723)

Dyddiad Cau: 08/03/2020 (23 diwrnod)

Amser Cau: 23:55:00

Lleoliad

Ffordd Llanbadarn Llangawsai Aberystwyth, Ceredigion, Cymru SY23 3QN

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Mrs Delyth Jones, Clerc y Corff Llywodraethol

Ffôn: 01970 639499

E-bost: danfonwch e-bost

Disgrifiad

Gwahoddir ceisiadau gan addysgwyr profiadol sy’n gwbl ymrwymedig i addysg Cyfrwng Cymraeg ag sydd â’r weledigaeth, y creadigrwydd a’r ymroddiad i gynnig arweiniad cadarn ac ysbrydoledig i’r dyfodol.

Er bod y Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi Pennaeth parhaol, y maent hefyd yn barod i ystyried cais secondiad neu amgen gan ymgeiswyr cymwys.

Lleolir Penweddig yn Aberystwyth, un o drefi mwyaf diwylliannol a hanesyddol Cymru, ac mae sir Ceredigion yn cynnig ansawdd byw o’r lefel uchaf, yn ogystal â bod yn un o’r siroedd harddaf o ran tirwedd yng Nghymru.

Os am becyn gwybodaeth, neu drefnu ymweliad a’r ysgol, cysylltwch â Chlerc y Corff Llywodraethol, Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, Ffordd Llanbadarn, Llangawsai, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3QN (Ffôn: (01970) 639499, e-bost: llywodraethwyr@penweddig.ceredigion.sch.uk)

Manylion Ychwanegol

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*