Prentis Digidol

Trosolwg

Rydym yn cynnig prentisiaeth am 15 mis gyda thâl yn ein hadran Ddigidol. Byddwch yn cael profiad ymarferol o weithio mewn adran sy'n creu cynnwys er mwyn ei osod ar ffrydiau cyfryngau cymdeithasol...

Cyflogwr: S4C

Cyflog: £12,600

Dyddiad Cau: 23/07/2019 (5 diwrnod)

Amser Cau: 12:00:00

Lleoliad

Canolfan S4C Yr Egin Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, Cymru SA31 3EQ

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol

E-bost: danfonwch e-bost

Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad

Hysbyseb Prentis Digidol
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes darlledu? A fyddech yn hoffi ennill cymhwyster tra'n ennill cyflog, os felly, ar eich cyfer chi y mae'r brentisiaeth hon.

Rydym yn cynnig prentisiaeth am 15 mis gyda thâl yn ein hadran Ddigidol. Byddwch yn cael profiad ymarferol o weithio mewn adran sy'n creu cynnwys er mwyn ei osod ar ffrydiau cyfryngau cymdeithasol S4C yn ogystal â datblygu Chwaraewr Clic S4C. Yn ystod eich prentisiaeth byddwch yn dysgu am y gwahanol feysydd busnes sy'n ymwneud â darparu gwasanaeth darlledu ar draws gwasanaethau teledu ac ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ystod y cynllun byddwch yn cael hyfforddiant ymarferol sy’n berthnasol i’r swydd, wrth astudio tuag at gymhwyster Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 4 (Llwybr Cyfryngau Rhwydweithiol). Gall unrhyw un sy'n 18 + oed pan fyddant yn dechrau, ac nad oes ganddynt radd raddedig ymgeisio.

Bydd angen o leiaf pedwar TGAU arnoch, gan gynnwys gradd C neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg.

Bydd angen i chi fod ar gael am gyfweliad rhwng 14-16 Awst 2019.

Mi fydd y brentisiaeth yn cychwyn Medi 2019.

Cyflog: £12,600
Cytundeb: 15 mis
Oriau: 35.75
Lleoliad: Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12:00 y prynhawn ar ddydd Mawrth 23 Gorffennaf 2019 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Nid ydym yn derbyn CV.

Manylion Ychwanegol

Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd i weld isod

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:

Swydd Ddisgrifiad  (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)