Prif Olygydd

Trosolwg

Mae hwn yn gyfle arbennig ac unigryw i lywio a siapio ein cynnwys golygyddol arlein ac mewn print, a hynny ar gyfer cwmni annibynnol, uchelgeisiol a sy’n edrych tua’r dyfodol.

Cyflogwr: Golwg a Golwg360

Cyflog: Cyflog cystadleuol

Dyddiad Cau: 11/12/2019 (5 diwrnod)

Amser Cau: 17:00:00

Lleoliad

Lleoliad hyblyg a chyflog cystadleuol

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Sian Powell

E-bost: danfonwch e-bost

Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad

Swydd Newydd Sbon!

Mae Golwg yn awyddus i benodi Prif Olygydd.

Mae hwn yn gyfle arbennig ac unigryw i lywio a siapio ein cynnwys golygyddol arlein ac mewn print, a hynny ar gyfer cwmni annibynnol, uchelgeisiol a sy’n edrych tua’r dyfodol.

Cyfrifoldebau’n cynnwys:

Gosod strategaeth olygyddol cylchgrawn Golwg a gwasanaeth golwg360, gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol
Gosod yr agenda newyddion
Rheoli’r tîm golygyddol
Mae Golwg yn chwilio am berson sy’n olygyddol aeddfed a dewr. Person sy’n awyddus i ddatblygu syniadau newydd a chyffrous. Bydd yr unigolyn yn gallu cyfathrebu’n ardderchog ac yn gallu bod yn llysgennad ar gyfer y cwmni gan feithrin a datblygu staff. Byddwch yn ymfalchïo yn y cyfle i arwain ac annog tîm.

Lleoliad hyblyg a chyflog cystadleuol.

Os hoffech gael sgwrs bellach a derbyn copi llawn o’r swydd ddisgrifiad cysylltwch â Sian Powell – sianpowell@golwg.com.

Manylion Ychwanegol

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*