Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo
Trosolwg
Mae Cwmni Theatr Arad Goch am benodi person brwdfrydig i reoli gwaith marchnata a hyrwyddo y cwmni. Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ac yn Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Cyflogwr: Cwmni Theatr Arad Goch
Cyflog: £21,460 - £30,023 pro rata, yn dibynnu ar brofiad
Dyddiad Cau: 07/12/2020 (40 diwrnod)
Amser Cau: 17:00:00
Lleoliad
Cwmni Theatr Arad Goch Stryd y Baddon Aberystwyth, Ceredigion, Cymru SY23 2NNGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol
Ffôn: 01970 617998
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad
Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo
32 - 40 awr y wythnos (i’w drafod)
Dyddiad cau 7/12/20
Mae Cwmni Theatr Arad Goch am benodi person brwdfrydig i reoli gwaith marchnata a hyrwyddo y cwmni. Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ac yn Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am hyrwyddo a marchnata cynyrchiadau’r cwmni a gweithgareddau yng Nghanolfan Arad Goch.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol (Ond nid yn hanfodol):
– Profiad o hyrwyddo digwyddiadau
– Sgiliau cyfryngau cymdeithasol
– Sgiliau cyfathrebu da
Cytundeb parhaol (yn amodol ar gyllid Cyngor Celfyddydau Cymru o fis Ebrill ymlaen).
Os am fanylion pellach – ebostiwch: nia@aradgoch.org
Dyddiad cychwyn: Ionawr 2021
Cyflog: £21,460 - £30,023 pro rata, yn dibynnu ar brofiad.
Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau ar ffurf llythyr a CV gydag enwau dau ganolwr at nia@aradgoch.org erbyn 5pm ar 7fed o Ragfyr 2020.
Manylion Ychwanegol
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*