Rheolwr Prosiect Newid cyfnod penodedig 24 mis
Trosolwg
Rydym am benodi Rheolwr Prosiect Newid a fydd yn gyfrifol am ymgorffori newid a rhagoriaeth rheoli prosiect, trwy'r prosiectau y byddwch yn eu rheoli'n uniongyrchol a Rhaglen Newid WAO y byddwch...
Cyflogwr: Swyddfa Archwilio Cymru
Cyflog: £40,071 - £46,515
Dyddiad Cau: 04/12/2019 (2 diwrnod)
Amser Cau: 17:00:00
Gwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynnol
Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad
Teitl swydd: Rheolwr Prosiect Newid cyfnod penodedig 24 mis
Cyfeirnod swydd: WAO0139/2016
Dyddiad postio: 12/11/2019
Dyddiad cau ceisiadau: 04/12/2019
Lleoliad: Cymru
Cyflog: Yr ystod gyflog ar gyfer y swydd yw £40,071- £46,515. .Wrth benodi, bydd y cyflog ar waelod y raddfa.
Pecyn: Hawl i 33 diwrnod o wyliau y flwyddyn a hefyd 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus; Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (MyCSP); prynu neu werthu gwyliau blynyddol.
Categori/math o swydd: Galluogwyr Corfforaethol
Disgrifiad swydd
Ydych chi am ein helpu i gyflawni newid sefydliadol yn fwy effeithiol? Nod ein gwaith yw gwella gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru ac rydym yn chwilio am rywun i'n helpu ni i wella hefyd.
Rydym am benodi Rheolwr Prosiect Newid a fydd yn gyfrifol am ymgorffori newid a rhagoriaeth rheoli prosiect, trwy'r prosiectau y byddwch yn eu rheoli'n uniongyrchol a Rhaglen Newid WAO y byddwch yn dylanwadu arnynt. Mae hon yn rol newydd sbon a byddwch yn helpu i wella aliniad prosiectau corfforaethol a'n huchelgeisiau strategol.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymgymryd ag amrywiaeth o waith a fydd yn cynnwys
- Rheoli prosiect un neu fwy o brosiectau penodol drwy gydol y cylch bywyd o syniad i wireddu'r manteision, er mwyn sicrhau bod amcanion a manteision busnes yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus.
- Cydweithio a gwasanaethau perthnasol Swyddfa Archwilio Cymru, datblygu achosion busnes rhagorol ar gyfer newid, gweithredu cynlluniau prosiect, amserlenni a chyllidebau o ansawdd uchel er mwyn sicrhau bod canlyniadau'r prosiect yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus o fewn cyfyngiadau amser a chyfyngiadau o ran ansawdd, ystyried yn llawn yr effeithiau a chwblhau asesiadau o barodrwydd busnes ar gyfer newid.
- Cefnogi'r cynllunio strategol ar brosiectau a rhaglenni i sicrhau bod portffolio cydlynol, cydlynus o newidiadau a fydd yn cyflawni amcanion strategol SAC.
- Gweithredu fel arbenigwr pwnc ar gyfer rheoli prosiectau a newid, datblygu prosesau a'r diwylliant sy'n angenrheidiol i sefydlu SAC fel canolfan rhagoriaeth rheoli newid.
Penodiad tymor sefydlog o ddwy flynedd, gyda'r posibilrwydd o gael swydd barhaol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad y mae eu hangen yn y disgrifiad swydd
NODER: Cynhelir y ganolfan asesu ar 12 Rhagfyr.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu megis pobl o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig a phobl anabl. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gyflogwr hyblyg.
Manylion Ychwanegol
Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:
Pecyn Gwybodaeth (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)