Swyddog Cefnogi Merthyr Tudful a RhCT
Trosolwg
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio gyda darpariaethau Mudiad Meithrin o fewn dalgylch daearyddol penodol. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu...
Cyflogwr: Mudiad Meithrin
Cyflog: £20,232 i £24,045 (pro rata)
Dyddiad Cau: 06/12/2020 (40 diwrnod)
Amser Cau: 23:55:00
Lleoliad
Bydd disgwyl i’r sawl a benodir, weithio o adref a bydd cyfleusterau swyddfa ar gael yn swyddfa Mudiad Meithrin yn y dalaith.Gwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Ann Angell
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad
Y swydd a’r person: Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio gyda darpariaethau Mudiad Meithrin o fewn dalgylch daearyddol penodol. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel. Bydd disgwyl i’r person fod yn swyddog cyswllt i glwstwr o ddarpariaethau mewn ardal ddaearyddol benodol. Yn ychwanegol i hynny, ac fel rhan o dîm, bydd disgwyl i’r person gefnogi gwaith yr holl ddarpariaethau yn y dalaith i gynnal a chodi ansawdd a safon.
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch.
Oherwydd hyn, ynghyd a diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (DALIE/BAME) a gwrywaidd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â
Ann Angell, Rheolwr Talaith De Ddwyrain Cymru ar
Ebost: ann.angell@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Mae Mudiad Meithrin yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma dros e-bost at:
adnoddaudynol@meithrin.cymru
Dyddiad cau 06.12.2020 am 11:55yh
Manylion Ychwanegol
Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd i weld isod
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:
Buddion Staff MM (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - Dwyieithog (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Ffurflen gais (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Disgrifiad swydd (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)