Swyddog Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg

Trosolwg

Mae tîm Polisi a Phartneriaeth Cyngor Dinas Casnewydd yn awyddus i benodi Swyddog Hyrwyddo’r Gymraeg am gyfnod o 12 mis, i arwain gwaith y cyngor o ran hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg.

Cyflogwr: Cyngor Dinas Casnewydd

Cyflog: £19,554 - £21,166

Dyddiad Cau: 20/11/2019 (3 diwrnod)

Amser Cau: 17:00:00

Lleoliad

Cyngor Dinas Casnewydd Y Ganolfan Ddinesig, Heol Godfrey Casnewydd, Casnewydd, Cymru NP20 4UR

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynnol

E-bost: danfonwch e-bost

Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad

Swyddog Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg

Cyfeirnod swydd: HP1051P

Cyflog: Gradd 4 £19,554 - £21,166

Mae tîm Polisi a Phartneriaeth Cyngor Dinas Casnewydd yn awyddus i benodi Swyddog Hyrwyddo’r Gymraeg am gyfnod o 12 mis, i arwain gwaith y cyngor o ran hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd deiliad y swydd yn ymgysylltu â phobl ifanc, rhieni, y gymuned ehangach yn ogystal â gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid allweddol ym mhob sector yng Nghasnewydd.
Mae’r rôl yn gofyn am weithio mewn amrywiaeth o leoliadau yng Nghasnewydd gan gynnwys yn y Ganolfan Ddinesig a swyddfeydd rhanddeiliaid allweddol.

Mae’r swydd hon yn gyfle gwych i ddatblygu a chodi proffil ac ymwybyddiaeth am ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ledled Casnewydd yn ogystal â chyfrannu at ddatblygu strategaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg yng Nghyngor Dinas Casnewydd, Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ac addysg cyfrwng Cymraeg ledled y ddinas yn fwy cyffredinol.

I gyflawni’r rôl hon bydd rhaid i chi feddu ar gymwysterau hyd at Lefel A, NVQ Lefel 3 neu gyfatebol ynghyd â phrofiad o ymgysylltu â grwpiau cymunedol, pobl ifanc a rhanddeiliaid; profiad o gasglu a dehongli data a phrofiad o weithio’n effeithiol ar sail partneriaeth. Bydd angen i chi hefyd feddu ar drwydded yrru a char i’w ddefnyddio.

Oherwydd natur y rôl hon, mae’n rhaid i ymgeiswyr allu ysgrifennu a siarad Cymraeg yn rhugl. Caiff cyfweliadau am y swydd hon eu cynnal yn ddwyieithog.

Dyddiad cau: 20/11/2019

Manylion Ychwanegol

Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*