Tiwtor dan Hyfforddiant Cymraeg i Oedolion
Trosolwg
Gwahoddir ceisiadau am swydd Tiwtor dan Hyfforddiant gyda Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe, Academi Hywel Teifi. Dyma gyfle cyffrous ar gyfer unigolion cydwybodol i weithio gyda'r tîm yn Academi Hyw
Cyflogwr: Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe
Cyflog: £25,482 i £28,660 y flwyddyn gyda buddio
Dyddiad Cau: 18/09/2018 (445 diwrnod)
Amser Cau: 00:05:00
Lleoliad
Abertawe Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe Abertawe, Abertawe, Cymru SA2 8PPGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Iestyn Llwyd
Ffôn: 01792 604308
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan
Cliciwch yma ar gyfer Sioe sleidiau. Gallwch hefyd glicio ar unrhyw un o'r lluniau i ddechrau sioe sleidiau.
Disgrifiad
Mae’r swydd yn un cyfnod penodol hyd at 31 Gorffennaf 2019 yn ddibynnol ar gyllid grant. Mae’r penodiad hwn yn rhan o ymdrech Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe i gynllunio ei gweithlu ar gyfer y dyfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dilyn rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion, yn dysgu (gyda chefnogaeth tiwtor personol) ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion ac yn arsylwi a chynorthwyo Tiwtoriaid ac Uwch Diwtoriaid-drefnyddion profiadol.
Bydd disgwyl i’r sawl a gaiff ei b/phenodi fod yn rhan o’r gwaith dysgu ar ystod o gyrsiau ffurfiol ac anffurfiol o fewn rhaglen Cymraeg i Oedolion yr Academi, a hynny yn un, neu fwy, o’r ardaloedd lleol o fewn dalgylch Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Yn dilyn cyfnod priodol o hyfforddiant, bydd disgwyl i Diwtor dan Hyfforddiant ddysgu hyd at 300 o oriau yn ystod y flwyddyn.
Bydd cyfle i’r sawl a benodir gofrestru ar gyrsiau neu gymhwysterau Dysgu Cymraeg i Oedolion pellach.
Manylion Ychwanegol
Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*