Ballet Cymru yn cyflwyno: Triple Bill

Trosolwg

Pryd: 29/11/2019

Amser: 07:30 pm - N / A

Lleoliad: Pontio

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

Deiniol Road Bangor, Gwynedd, Cymru LL57 2TQ

Gwefan: https://www.pontio.co.uk/online/19Triple

E-bost: danfonwch e-bost

Ffôn: 01248 382828

Disgrifiad

Mae Ballet Cymru, cwmni sydd wedi ennill y Critics' Circle Award, yn cyflwyno tri gwaith newydd eithriadol, sy'n cynnwys rhai o'r artistiaid benywaidd mwyaf cyffrous sy'n gweithio ym myd dawns.

Mae Charlotte Edmonds, a ddechreuodd fel coreograffydd ifanc gyda'r Royal Ballet, yn cyflwyno gwaith newydd sbon gyda gwisgoedd a setiau trawiadol gan y dylunydd o Fryste, Eleanor Bull a sgôr newydd gan y cyfansoddwr o Los Angeles, Katya Richardson.

Patricia Vallis yw coreograffydd Divided We Stand, a berfformir i gerddoriaeth wefreiddiol Purcel. Ysgogwyd y gwaith hwn gan y rhaniadau a welir yn ein cymdeithas o ran barn wleidyddol, gender a chrefydd.

Mae Celtic Concerto yn deyrnged gan Ballet Cymru i'r telynor, cyfansoddwr a noddwr y cwmni, Catrin Finch. Mae ei cherddoriaeth hudolus wedi ei chydblethu â symudiad syfrdanol a grëwyd gan Gyfarwyddwr Artistig Ballet Cymru, Darius James OBE a'r Cyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol, Amy Doughty.

Peidiwch â cholli'r cyfle unigryw hwn i fwynhau rhai o'r dawnsiau gorau yng Nghymru, ac a wnaed yng Nghymru.

Mae Ballet Cymru yn gwmni bale teithiol rhyngwladol i Gymru. Mae wedi ymrwymo i gynhwysiad ac arloesi mewn dawns a bale clasurol, ac i'r safon uchaf o gydweithio. Mae'r cwmni'n cynhyrchu perfformiadau dawns proffesiynol gwreiddiol wedi'u seilio ar dechneg bale ac yn mynd ar deithiau cenedlaethol a rhyngwladol. Nod ei raglen Mynediad ac Estyn Allan helaeth yw cael gwared ar rwystrau a gwneud y celfyddydau'n hygyrch i bawb.