Dygwyl y Meirw
Trosolwg
Pryd: 02/11/2019
Amser: 11:30 am - N / A
Lleoliad: Pontio
Gwybodaeth gyswllt
Deiniol Road Bangor, Gwynedd, Cymru LL57 2TQGwefan: https://www.pontio.co.uk/online/19Dygwyl
E-bost: danfonwch e-bost
Ffôn: 01248 382828

Disgrifiad
“Tydi Taid ddim yma mwyach – ond, yng nghistiau'r atig, mae ei straeon yno'n disgwyl i gael eu darganfod.”
Wrth i'r plant gyrraedd y neuadd yn eu gwisgoedd Calangaea, mae troliau sioe bypedau symudol Taid yn troi'n ffair o fynwentydd dychrynllyd, cysgodion iasoer a chypyrddau o ysbrydion swnllyd; a'r plant yn setlo i wrando ar stori o'r enw... DYGWYL Y MEIRW!
Sioe i blant yw DYGWYL Y MEIRW sy’n ddathliad o chwedlau ein hynafiaid, o gylch bywyd, ac o sut mae hogan fach yn dod i delerau a marwolaeth ei Thaid. Drwy gymeriadau traddodiadol Cymreig fel yr Hwch Ddu Gota, y Ladi Wen a Jac y Lantarn, mae Gwen yn darganfod bywyd newydd yn straeon ei Thaid, a dyfodol fel storiwr ei hun. Drwy fiwsig, hiwmor, goleuadau iasoer, triciau theatrig, pypedau cysgod ac ysbrydion hedegog, mae'r sioe yn gorffen ar nodyn hapus, gobeithiol.
Sioe yn yr iaith Gymraeg