GŴYL AR LAFAR
Trosolwg
Pryd: 25/04/2020
Amser: 10:00 am - 04:00 pm
Lleoliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru | National Library of Wales
Gwybodaeth gyswllt
Gwefan: http://digwyddiadau.llyfrgell.cymru
E-bost: danfonwch e-bost
Cliciwch yma ar gyfer Sioe sleidiau. Gallwch hefyd glicio ar unrhyw un o'r lluniau i ddechrau sioe sleidiau.
Disgrifiad
Cyfle i ymwelwyr gymdeithasu, gan ddefnyddio’u Cymraeg mewn awyrgylch hwyliog a chroesawgar a mwynhau’r trysorau cenedlaethol sydd i’w gweld yn y Llyfrgell. Mae’r ŵyl rhad-ac-am-ddim yma yn ffrwyth partneriaeth rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru. Mae arlwy’r diwrnod yn cynnwys:
Gweithdy Ffotograffiaeth
Gweithgaredd yn seiliedig ar ffotograffiaeth ar gyfer dysgwyr iau a’u teuluoedd. Sesiwn galw heibio yn rhedeg gydol y dydd.
Cystadleuaeth Ffotograffiaeth
Tynnwch luniau ar y dydd a’u trydar #ArLafar20
Lolfa Lafar
Cyfle i sgwrsio gydag aelodau staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n dysgu Cymraeg.
Dihangfan
Bydd angen i ymwelwyr sydd am roi cynnig arni ddefnyddio sgiliau ymchwilio a datrys posau er mwyn dianc o ddihangfan Llyfr-GELL
Cerdd a Chân
Cyfle i ddysgwyr Cymraeg ymuno yn y canu yng Nghaffi Pen Dinas, dan arweiniad Côr y Llyfrgell.
Sioe Mewn Cymeriad
Perfformiad ymson gan gwmni Mewn Cymeriad yn adrodd stori cymeriad hanesyddol o Gymru.
Teithiau Tywys
Teithiau o amgylch yr adeilad a chyfle i ymweld â storfeydd ac ardaloedd caeedig Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cwis
Ar ddiwedd y prynhawn ymunwch yn yr hwyl yn dimau neu’n unigolion i ateb cwestiynau cyffredinol ar Gymru, y Gymraeg, Ffotograffiaeth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Arddangosiad
Daguerreoteip Castell Margam gan Calvert Richard Jones, y ffotograff Cymreig cynharaf.
Helfa Drysor
Casglwch atebion neu eitemau wedi eu cuddio yn adeilad y Llyfrgell i gwblhau’r helfa drysor.
Bydd eitemau a llyfrau i ddysgwyr ar gael yn siop y Llyfrgell. Gwyliwch allan am fanylion amserau’r sesiynau ar ein cyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol!
***Mynediad am ddim***