It's a Wonderful Life

Trosolwg

Pryd: 21/11/2019

Amser: 07:30 pm - N / A

Lleoliad: Pontio

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

Deiniol Road Bangor, Gwynedd, Cymru LL57 2TQ

Gwefan: https://www.pontio.co.uk/online/19Life

E-bost: danfonwch e-bost

Ffôn: 01248 382828

Disgrifiad

Wedi'i hysbrydoli gan y ffilm glasurol Americanaidd, caiff It's a Wonderful Life: a live radio play ei pherfformio fel darllediad radio byw o'r 1940au o flaen cynulleidfa stiwdio.

Gyda chymorth ensemble o chwe actor ac artist byw yn creu effeithiau sain, mae'r stori am George Bailey, dyn pur ddelfrydgar, yn datblygu wrth iddo ystyried dod â'i fywyd i ben ar un Noswyl Nadolig dyngedfennol. Bydd angen cymorth gan angel hoffus o'r enw Clarence i wneud i George newid ei feddwl a deall gwir ysbryd y Nadolig.

Gyda cherddoriaeth fyw a chast o chwe actor yn dod â stiwdio recordio radio a thref Bedford Falls yn fyw, mae Lighthouse Theatre a Chanolfan Celfyddydau Pontardawe yn llwyfanu'r clasur tymhorol hwn a fydd yn sicr o'ch gwefreiddio.
(gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru a Tŷ Cerdd)

“This is a fresh and inventive way of reconnecting with a classic story of love and redemption”
Chicago Sun Times