Nadolig Celtaidd yng Nghymru gyda Calan

Trosolwg

Pryd: 21/12/2019

Amser: 07:30 pm - N / A

Lleoliad: Pontio

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

Deiniol Road Bangor, Gwynedd, Cymru LL57 2TQ

Gwefan: https://www.pontio.co.uk/online/19Nadolig

E-bost: danfonwch e-bost

Ffôn: 01248 382828

Disgrifiad

Mae'r band rhyngwladol hwn o Gymru, sy'n enillwyr sawl gwobr, yn ôl ar y ffordd gyda'u rhythmau heintus a'u dawnsio egnïol i ddathlu gŵyl y Nadolig.
Cawn fwynhau eu seiniau ffres a bywiog sy'n rhoi gwedd a gwisg newydd i hen draddodiadau. Mae'r sioe'n cynnwys canu Plygain traddodiadol - ffurf ar ganu sydd wedi bod yn boblogaidd ers canrifoedd yn eglwysi a chapeli Cymru.

Yn y sioe ceir llawer o alawon a chaneuon tymhorol yr ydym i gyd mor hoff o'u clywed yn cael eu chwarae ar offerynnau traddodiadol, gan gynnwys ffidlau, chwibanau, bagpibau Cymreig (!) a dawnsio step gan bencampwr yn y maes hwnnw.

‘.....a diverse ride between giddy Welsh reeling, healthy acoustic folk-pop with upfront attitude and brashness of youth.” FROOTS