Symffoni New World

Trosolwg

Pryd: 22/11/2019

Amser: 07:30 pm - N / A

Lleoliad: Pontio

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

Deiniol Road Bangor, Gwynedd, Cymru LL57 2TQ

Gwefan: https://www.pontio.co.uk/online/19New

E-bost: danfonwch e-bost

Ffôn: 01248 382828

Disgrifiad

Arweinydd Clemens Schuldt
Ffidil Aleksey Semenenko
Brahms Concerto Ffidil yn D
Dvořák Symffoni Rhif 9 'From the New World'

Mae Brahms a Dvořák yn dod â chariad at y gorffennol a chwilfrydedd am y newydd i weithiau sy’n eu cynrychioli ar eu gorau.

Mae concerto Brahms i’r ffidil yn llawn goleuni a chynhesrwydd wrth iddo gael ei ysbrydoli gan haul yr Eidal a’r dawnsfeydd bywiog y bu’n chwarae ynddyn nhw, ac yntau yn ei ugeiniau, gyda’i ffrind o Hwngari a oedd yn chwarae’r ffidil. Ar y llaw arall, mae Dvořák yn cychwyn ar antur orau ei fywyd yn Efrog Newydd, yn mwynhau seiniau newydd America, ond fyth yn anghofio harddwch ei Bohemia annwyl. Mae’r ddau fyd yn cyfoethogi ei symffoni olaf.