Talisk

Trosolwg

Pryd: 22/11/2019

Amser: 08:00 pm - N / A

Lleoliad: Pontio

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

Deiniol Road Bangor, Gwynedd, Cymru LL57 2TQ

Gwefan: https://www.pontio.co.uk/online/19Talisk

E-bost: danfonwch e-bost

Ffôn: 01248 382828

Disgrifiad

Yn eu pum mlynedd, mae’r band o’r Alban, Talisk, wedi derbyn nifer o wobrau gan gynnwys Band Gwerin y Flwyddyn 2017 yng ngwobrau BBC Alba Scots Trad Music a BBC Radio 2 Folk Award, am eu sain sy’n llawn egni ond wedi’i blethu’n gelfydd.

Mae Mohsen Amini –(Cerddor y Flwyddyn 2018 yn y BBC Radio 2 Folk Awards) Hayley Keenan a Graeme Armstrong yn cyfuno’r concertina, ffidil a’r gitâr er mwyn cynhyrchu sain aml-haenog a swynol sydd wedi swyno cynulleidfaoedd o’r Unol Daliaethau i Awstralia, a thrwy Brydain.

Drwy nifer o ymddangosiadau mewn gwyliau blaengar ym mhedwar ban byd – o Ŵyl Gwerin Caergrawnt i Tønder Denmarc, WOMAD y DU a Las Palmas, Gŵyl Gwerin Philadelphia, Celtic Colours, Gŵyl Wyddelig Milwaukee a phump ymddangosiad yn Celtic Connections Glasgow – mae’r tri wedi derbyn y ganmoliaeth uchaf gan gyfryngau gwerin a cherddoriaeth byd ac wedi meithrin dilyniant selog.

Rhyddhawyd eu hail albwm hir-ddisgwyliedig yn Hydref 2018, a gafodd ymateb pum seren gan Songlines, wrth iddynt ganmol y band fel “incredibly infectious and endearing … fresh, invigorating, accomplished and playfully frisky.”