Y Rebel O Ro-Wen: Bywyd Huw T. Edwards Drwy Sain a Ffilm

Trosolwg

Pryd: 26/02/2020

Amser: 01:00 pm - 02:00 pm

Lleoliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

Rhiw Penglais Aberystwyth, Ceredigion, Cymru

Gwefan: http://digwyddiadau.llyfrgell.cymru

Disgrifiad

Yn ei ddydd, roedd Huw T. Edwards (1892–1970) yn un o ddynion amlycaf Cymru.


‘Gwladgarwr, undebwr llafur, sosialydd, llenor’ yw’r disgrifiad ohono ar y gofeb iddo yn ei bentref genedigol Ro-wen. O gefndir tlodaidd, dringodd i safle o ddylanwad yng Nghymru drwy ei wasanaeth diflino a’i weithgaredd cyhoeddus cyn dyddiau datganoli.


Bydd Gwyn Jenkins, cyn-Geidwad Adran Llawysgrifau y Llyfrgell Genedlaethol, ac awdur ei gofiant, Huw T. Edwards: Prif Weinidog Answyddogol Cymru, yn cyflwyno ychydig o hanes bywyd amlochrog a difyr Huw T. Edwards, gan ddefnyddio ffilmiau o Archif Sgrin a Sain y Llyfrgell ac o’i gasgliad personol o dapiau sain.

***Cyflwyniad trwy gyfrwng y Gymraeg***
***Darperir cyfieithu ar y pryd***
***Mynediad am ddim trwy docyn***