Adra
Trosolwg
Mae Adra yn gwmni newydd sy’n ymroddedig i ganfod a gwerthu cynnyrch Cymreig trawiadol ar eich cyfer chi a’ch cartref.
Gwybodaeth Gyswllt
8 Beddgwenan Llandwrog Caernarfon, Gwynedd, Cymru LL54 5LLffôn: cliciwch yma i weld y rhif ffôn01286 831353
Gwefan: http://www.adrahome.com

Cliciwch yma ar gyfer Sioe sleidiau. Gallwch hefyd glicio ar unrhyw un o'r lluniau i ddechrau sioe sleidiau.
Disgrifiad
Fe wyddom fod pob math o bethau hardd yn cael eu gwneud yma sy’n haeddu cael eu gweld gan gynulleidfa ehangach. Mae ein cynnyrch i gyd wedi eu canfod yn ofalus yng Nghymru, wedi eu dylunio gan ddylunwyr o Gymru, neu yn amlygu’r iaith Gymraeg – a dim ond cynnyrch yr ydym wedi syrthio mewn cariad â nhw ein hunain yr ydym yn eu gwerthu! Maent wedi eu gwneud gan artistiaid, crefftwyr a chynhyrchwyr bach, annibynnol o bob rhan o Gymru, i safon uchel gan ein bod o’r farn ei bod yn bwysig cefnogi cyflenwyr bychain, lleol.
Rydym yn anelu at fod mor eco-gyfeillgar ag sy’n bosibl. Mae ein holl ddefnyddiau swyddfa a phacio, pan fo’n bosibl, wedi cael eu gwneud o ddeunydd wedi’u hailgylchu, wedi’u hailddefnyddio neu’n ailgylchadwy. Pan na allwn osgoi defnyddio plastig, rydym yn eich annog yn gryf i’w ail-ddefnyddio yn hytrach na’i daflu ymaith
Lleoliadau
Caernarfon